Cynigion i gynnig parcio am ddim ar ôl 2pm yn y rhan fwyaf o feysydd parcio canol tref sy’n eiddo i’r cyngor yn cael ei gynnig i’r Bwrdd Gweithredol yr wythnos nesaf.
Bydd y cynnig ar gyfer parcio am ddim ar ôl 2pm 7 diwrnod yr wythnos am gyfnod o 12 mis yn dechrau yn fuan ym mis Ebrill.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
“Falch o gynnig parcio am ddim”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Rwy’n falch iawn o gyflwyno’r cynigion hyn i gynnig parcio am ddim ar ôl 2pm i aelodau. Mae wedi’i anelu’n uniongyrchol at gefnogi masnachwyr canol y dref a gobeithio, os caiff ei gymeradwyo, y bydd pobl yn Wrecsam yn cymryd mantais llwyr o’r cynnig ac yn ymweld â chanol y dref. Mae yna lawer i’w gynnig gyda manwerthwyr annibynnol anhygoel yn cynnig cynnyrch ardderchog.”
Nid yw’r cynigion yn cynnwys Tŷ Pawb ond maent yn cynnwys meysydd parcio’r cyngor yn:
- Canolfan Byd Dŵr
- Llyfrgell Wrecsam
- Cilgant San Siôr
- Ffordd y Cilgant
- San Silyn
- Stryt y Farchnad
Os bydd yn cael ei gymeradwyo byddwn yn dod â manylion pan fydd yn dechrau i chi.
Mae yna hefyd bwyntiau gwifro trydan yn y Ganolfan Byd Dŵr – gallwch ddarllen mwy am hynny yma:
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN