Oes gennych chi Fathodyn Glas ac yn defnyddio meysydd parcio a gaiff eu rhedeg gan y Cyngor yn rheolaidd yn Wrecsam?
Efallai eich bod yn mynd â’ch ci am dro neu yn hoff o’r awyr agored a’ch bod yn parcio yn un o’n Parciau Gwledig yn rheolaidd?
Os felly, dylech ddarllen hwn.
Cynnig i gyflwyno taliadau meysydd parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas
Ar hyn o bryd, gall deiliaid Bathodyn Glas barcio am ddim yn unrhyw un o’r meysydd parcio a gaiff eu gweithredu gan y cyngor.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Byddai cynigion newydd a gaiff eu hystyried gan uwch aelodau o Gyngor Wrecsam yn arwain at hyn yn newid.
Mae’r cynigion yn argymell bod taliadau parcio yn cael eu cyflwyno ar gyfer deiliaid bathodyn glas a fyddai’n golygu eu bod yn unol â phob defnyddiwr arall meysydd parcio a gaiff eu gweithredu gan Gyngor Wrecsam lle mae taliadau’n berthnasol.
Ond byddai gan ddeiliaid Bathodyn Glas awr ychwanegol ar ben y tariff arferol – er enghraifft, fe allai rhai sy’n talu am arhosiad tair awr barcio am bedair awr.
Taliad parcio ceir dyddiol £1 ar gyfer Parciau Gwledig
Mae Cyngor Wrecsam hefyd yn rheoli nifer o barciau gwledig, ac mae’r lleoliadau hyn yn cynnig parcio am ddim ar hyn o bryd.
Mae ail gynnig yn argymell cyflwyno taliad parcio trwy’r dydd o £1 yn Nyfroedd Alyn (Gwersyllt a Llai), Melin Nant a Thŷ Mawr.
Byddai tocyn blynyddol £50 ar gael hefyd i ddefnyddwyr sydd am barcio’n rheolaidd.
Byddai peiriannau newydd yn cael eu rhoi ar waith yn y parciau gwledig, i ganiatáu i ddefnyddwyr dalu gydag arian parod a gallai defnyddwyr meysydd parcio ddefnyddio’r ap ffôn symudol i dalu, i sicrhau ei fod yn hawdd ei ddefnyddio.
Bydd y ddau gynnig uchod yn cael eu cyflwyno i Fwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam, ddydd Mawrth, 9 Ionawr.
Os caiff ei gymeradwyo, byddai’r mesurau newydd yn dod i rym ar 3 Ebrill, 2018.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno’r adroddiad hwn yn y Bwrdd Gweithredol.”
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU