Yn 2002 y cychwynnwyd ailgylchu gwastraff cartref yn Wrecsam, ac ers hynny rydym wedi gallu cynyddu faint o wastraff rydym yn ei ailgylchu i’r pwynt lle rydym yn gyson yn un o’r awdurdodau lleol sy’n perfformio orau yng Nghymru.
I chi’r cyhoedd mae’r diolch am hynny, felly rydym yn ddiolchgar iawn o ba mor gyflym mae pobl wedi dod i arfer ag ailgylchu.
Ond mae llawer o ddeunydd yn dal o gwmpas na allwn ei ailgylchu.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Amlenni, cardiau cyfarch, papur lapio, ffoil, erosolau, poteli chwistrellu…
O… daliwch ymlaen…
Fe allwn ni eu hailgylchu!
Os mai blychau ar olwynion neu gymysgedd o fagiau a blychau sydd gennych yn eich cartref, gellir gwahanu ac ailgylchu popeth a restrir uchod.
Mae angen mwy o waith i ailgylchu rhai ohonynt – er enghraifft rhaid glanhau unrhyw ffoil sy’n cael ei ailgylchu, a rhaid tynnu unrhyw dâp selo oddi ar bapur lapio.
Rydym yn dal i fod angen eich cymorth ar gyfer yr eitemau arferol yr ydym wedi bod yn eu hailgylchu ers blynyddoedd.
Er enghraifft, gall glanhau jariau, potiau a thybiau yn sydyn cyn eu taflu olygu y gellir eu hailgylchu i ddeunyddiau llawer gwell na phe byddai unrhyw wastraff bwyd wedi ei adael arnynt.
Os gallwch chi, gwasgwch unrhyw boteli plastig neu ganiau – mae’n golygu y byddant yn cymryd llai o le ac na fydd ein tryciau yn llenwi’n sydyn.
Er bod y dechnoleg yn gwella drwy’r amser, mae tipyn o bethau o hyd na allwn eu hailgylchu.
Rhaid torri deunydd pacio fel polysterene a’i roi yn y bin arferol.
Ni ddylid rhoi cerrig, cerrig mân, potiau planhigion na phridd yn y bin gwastraff gardd – er y gellir mynd a photiau planhigion i’r sgipiau ar gyfer plastig caled yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.
Os ydych yn mwynhau garddio, does dim pwynt taflu eich gwastraff gardd i ffwrdd – beth am ei gompostio?
Am fwy o wybodaeth am ein gwasanaethau ailgylchu, ewch i’n gwefan
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB