Daeth terfyn cyflymder diofyn 20mya Llywodraeth Cymru i rym ar draws Cymru ym mis Medi eleni ac roedd gosod yr holl arwyddion cyflymder ledled y fwrdeistref sirol yn golygu llawer o waith.
Yn anffodus, mae llawer o’r arwyddion wedi’u fandaleiddio, neu hyd yn oed eu dwyn. Mae rhai o’r arwyddion hyn yn cynnwys yr arwyddion cyflymder 20mya wrth ymyl ysgolion, sy’n fater diogelwch difrifol.
Meddai’r Uwch-arolygydd Ardal y Dwyrain, Jon Bowcott: “Mae difwyno a difrodi arwyddion ffordd yn weithred droseddol a gall rhoi defnyddwyr y ffordd mewn perygl.
“Mae’r rhai sy’n gyfrifol am y fandaliaeth ddisynnwyr hon yn peryglu eu hunain – gan fod yr arwyddion sy’n cael eu targedu yn aml wedi’u lleoli mewn lleoliadau gwledig gydag ychydig iawn o oleuadau stryd neu ddim o gwbl.
“Mae arwyddion ffordd yn elfen hanfodol o isadeiledd cludiant sy’n darparu gwybodaeth bwysig i holl ddefnyddwyr y ffordd, ac mae’r fandaliaeth barhaus mewn rhai ardaloedd yn ychwanegu dryswch ymysg modurwyr.
“Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn cymryd camau gweithredu yn erbyn unrhyw un y delir yn difwyno ac yn difrodi arwyddion ffordd yn fwriadol.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae wedi bod yn siomedig gweld yr arwyddion ffordd hyn yn cael eu difrodi, ac rydym yn cymryd y mater o ddifrif. Mae fandaleiddio neu symud yr arwyddion yn creu mater diogelwch i breswylwyr a gall y canlyniadau i’r rhai sy’n gwneud y difrod hefyd fod yn ddifrifol iawn; mae ymyrryd ag arwyddion traffig yn drosedd o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 a gall unigolyn fod yn atebol am unrhyw ddamweiniau a achoswyd gan eu camau troseddol.”
Dylai unrhyw un sydd eisiau rhoi gwybod am arwydd sydd wedi’i difwyno/ar goll, anfon e-bost at Gyngor Wrecsam gan nodi lleoliad yr arwydd i traffic@wrexham.gov.uk.