Mae ein Cynllun Treftadaeth Treflun yn ceisio adfer a gwarchod nifer o’r adeiladau hanesyddol bwysig sydd yn Ardal Gadwraeth Canol y Dref.
Yn ogystal â helpu i ddod â rhai o’u nodweddion pensaernïol a hanesyddol gorau’n eu holau, rydyn ni hefyd eisiau eu gwneud nhw’n ddeniadol i fusnesau lleol a’r cyhoedd – a helpu i allu defnyddio rhai ohonynt at ddefnydd economaidd unwaith eto.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Ond yn rhan o hynny, rydyn ni angen clywed gan gontractwyr, penseiri a syrfewyr a allai ein helpu ni i ddarparu’r arbenigedd a’r gweithlu sydd ei angen yn rhan o’r rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol ategol.
Gan gadw hynny mewn cof, mae gennym ni ddau ddigwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr’ yr wythnos nesaf, a fydd yn rhoi cyfle i gontractwyr a masnachwyr gwrdd â ni i drafod y gefnogaeth y gallen nhw ei darparu.
Bydd digwyddiad yn cael ei gynnal o 3.30pm tan 8pm ddydd Mercher, 27 Tachwedd ar gyfer y diwydiant adeiladu, a rhwng 3.30pm ac 8pm ddydd Iau, 28 Tachwedd ar gyfer y diwydiannau pensaernïaeth a thirfesur.
Bydd y ddau ddigwyddiad yn cael eu cynnal yn y Neuadd Goffa, Bodhyfryd, Wrecsam.
Os hoffech chi ddod, anfonwch e-bost at procurement@wrexham.gov.uk.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN