Mae Safonau Masnach yn parhau i ymchwilio i ddigwyddiad lle bu i silindr nwy rwygo mewn gardd yn Wrecsam, gan achosi i nwy propan ddianc yn gyflym. Wnaeth y nwy ddim tanio, ond oherwydd grym y nwy a ddihangodd, saethodd y botel a’r barbeciw oedd yn sownd ynddi ar draws yr ardd a bwrw drwy ffens bren.
Mae Safonau Masnach yn Wrecsam yn galw yn ôl pob silindr nwy LPG Gaslight a brynwyd yn Smithy View Service Station ers 1 Ionawr 2020.
Mae Swyddogion wedi cydweithio’n agos â’r cyflenwr nwy cenedlaethol, Flogas Britain Limited a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, ond mae’n anodd sefydlu’n bendant yr union reswm dros y methiant, a gallai fod yn ganlyniad un neu fwy o achosion posib.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Cafodd Smithy View Service Station nifer fechan o’r silindrau hyn y tu allan i’r llwybrau cyflenwi arferol, ac nid oeddent wedi bod drwy’r gweithdrefnau profi ac archwilio arferol y byddai Flogas yn eu dilyn fel arfer, sydd o’r pwys mwyaf. Mae diogelwch cwsmeriaid, gweithwyr a’r cyhoedd yn ehangach yn hanfodol i weithrediadau busnes Flogas. Mae LPG yn hynod ddiogel o’i ddefnyddio, ei drin a’i storio’n gywir ac mae gan Flogas brosesau rheoli diogelwch trwyadl i sicrhau diogelwch parhaus y cyhoedd. Gan y gallai silindrau eraill fod allan ar y farchnad sy’n cyflwyno risg o’r un math o fethiant, mae’r Cyngor, yn gweithio gyda Flogas, yn cyhoeddi’r cais brys canlynol.
Os ydych chi wedi prynu silindr LPG Gaslight gan Smithy View Service Station, Ffordd Caer, Wrecsam yn y 10 mis diwethaf, rydym yn eich cynghori’n gryf i ffonio Flogas ar 0800 574 574. Os byddant yn canfod bod gennych chi silindr nad yw wedi cael ei brofi, bydd Flogas yn rhoi un newydd i chi Am Ddim, er mwyn i chi gael parhau i ddefnyddio LPG yn ddiogel ar gyfer eich gweithgareddau hamdden.
Mae yna hefyd nifer cyfyngedig o silindrau LPG propan dur coch a gyflenwyd gan Smithy View Service Station, nad ydynt wedi cael eu profi na’u harchwilio gan nad yw’r silindrau wedi cael eu dychwelyd i’r perchennog (Flogas) i’w hail-lenwi. Mae’r silindrau hyn wedi cael eu hail-lenwi’n lleol, gan osgoi’r holl reoliadau diogelwch. Mae’r rhain yn lliw coch a bydd y cylch data profi sy’n sownd yn y silindr ar goll. Dylai hwn fod i’w weld yn amlwg o dan falf y silindr, a dylai edrych fel y llun a ddangosir.
Cysylltwch â Flogas Britain, fydd yn cydlynu’r broses o alw’r cynnyrch hwn yn ôl ar ran swyddfa safonau masnach Wrecsam, drwy ffonio 0800 574574 neu drwy alw draw i safle Flogas Wrecsam yn Maelor Works, Marchwiail, Wrecsam LL13 0UW.
Nid oes unrhyw bryderon am silindrau nwy y mae unrhyw ddosbarthwr arall wedi’u cyflenwi.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Gwarchod y Cyhoedd, “Mae’n hanfodol bwysig i’r cyhoedd dalu sylw i’r rhybudd hwn. Mae hwn yn fater difrifol iawn ac mae’n gas i gen i feddwl am ganlyniadau tanio potel nwy wedi’i rhwygo. Mae gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor yn cydweithio’n agos â Flogas i ganfod a chael gwared ar unrhyw silindrau nwy allai fod yn beryglus, a byddwn yn annog y cyhoedd i chwilio a oes ganddynt botel, a meddwl yn galed i gofio o lle y cawsant hi. Os oes gennych chi botel nwy a gawsoch o Smithy View Garage, mae angen i chi gymryd camau a dilyn y cyfarwyddiadau.”
YMGEISIWCH RŴAN