Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Galwad agored am wneuthurwyr i ddatgan diddordeb i gynllunio a chreu cadair Eisteddfod 2025.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Galwad agored am wneuthurwyr i ddatgan diddordeb i gynllunio a chreu cadair Eisteddfod 2025.
Pobl a lle

Galwad agored am wneuthurwyr i ddatgan diddordeb i gynllunio a chreu cadair Eisteddfod 2025.

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 15, 2024 9:48 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Galwad agored am wneuthurwyr i ddatgan diddordeb i gynllunio a chreu cadair Eisteddfod 2025.
RHANNU

Erthygl Gwadd – Eisteddod Genedlaethol

Briff Cadair 2025

Y CYSYNIAD
Rydym yn gwahodd pobl i fynegi diddordeb mewn dylunio a chreu Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Caiff ei chyflwyno i enillydd un o ddwy gystadleuaeth farddol fwyaf yr Eisteddfod, a gynhelir yn Wrecsam 2025. Undeb Amaethwyr Cymru Siroedd Dinbych a Fflint  sydd yn noddi Cadair yr Eisteddfod yn 2025, ac felly Undeb Amaethwyr Cymru fydd yn cytundebu’r ymgeisydd llwyddiannus maes o law.

Y Gadair yw un o brif anrhydeddau’r Eisteddfod, a dylai’r dyluniad a’r gwneuthuriad fod o’r safon uchaf. Mae’n symbol a ddefnyddir mewn seremoni gyhoeddus a gynhelir ar y llwyfan mawr ger bron miloedd o bobl ar ddydd Gwener yr Eisteddfod, ac felly bydd angen i’r dyluniad terfynol a gyflwynir cael ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Orsedd cyn dechrau ar y gwaith (Hydref 2024).

Dathlu tirwedd, diwylliant, hanes yr ardal gan ystyried hefyd yr elfen amgylcheddol wrth greu o’r newydd.  

MEINI PRAWF DYLUNIO

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn nodi bod RHAID cynnwys y canlynol yn y dyluniad:
• /|\ Y Nod Cyfrin. Dylid ei osod mewn lle amlwg ac urddasol
• Enw swyddogol yr Eisteddfod sef: 
Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025
Noder: Ni chaniateir unrhyw eiriau eraill
• Dylai’r Gadair gael ei chwblhau erbyn Ebrill 11 2025

/|\ Y NOD CYFRIN
Mae’r Nod Cyfrin /|\ neu Nod y Pelydr Golau yn symbol a ddyfeisiwyd gan Iolo Morganwg i gynrychioli Cariad, Cyfiawnder a’r Gwir. Fodd bynnag, ni wnaeth Iolo ei hun fawr ddim defnydd o’r symbol, ac ni ddaeth yn fwyfwy poblogaidd tan ar ôl ei farwolaeth. Fe’i gwelwyd yn gyntaf ar y Sgrôl Gyhoeddi yng Nghaerdydd, 1833: erbyn 1850, gellid ei weld ar faneri’r gorseddau ac o tua 1860 ar dystysgrifau aelodau newydd. Erbyn diwedd y ganrif fe’i hystyrid yn symbol cymeradwy Gorsedd y Beirdd, ac ymddangosodd ar ei rhaglenni, ar y faner newydd ac weithiau hyd yn oed ar Gerrig yr Orsedd. Erbyn y 1950au, penderfynwyd bod yn rhaid cynnwys y symbol ar bob un o Gadeiriau a Choronau’r Eisteddfod. (www.eisteddfod.cymru)

CAMAU CYLLIDEBOL A PHROSIECT

Y gyllideb ar gyfer dylunio a chreu’r Gadair yw hyd at £2,000 (+ TAW os yw’r dylunydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW), i’w dalu mewn tri rhandaliad o dderbyn anfoneb:
•    Cam 1 – Gweledigaeth a chynllun ddrafft a chymeradwyaeth gan yr Ysgol a Bwrdd yr Orsedd: Taliad o 33% ddiwedd Hydref 2024
•    Cam 2 – Taliad o 33% ddiwedd Rhagfyr 2024
•    Cam 3 – Cwblhau’r Goron: taliad olaf ar ôl ei chyflwyno’n orffenedig a’i chymeradwyo gan Undeb Amaethwyr Cymru a’r Eisteddfod ynghyd â lluniau swyddogol, erbyn 11 Ebrill 2025

AMSERLEN
•    Rhaid cyflwyno’r cais cyn 17:00, 22 Hydref 2024
•    Cynhelir cyfweliadau’r ymgeiswyr ar y rhestr fer ar ddydd Iau 24 Hydref neu ddydd Gwener 25 Hydref 2024
•    Bydd angen i’r weledigaeth gychwynnol a chynllun ddrafft fod yn barod erbyn y cyfweliad 
•    Bydd y cynllun ddrafft angen cael ei gymeradwyo gan Undeb Amaethwyr Cymru a Bwrdd yr Orsedd ddiwedd Hydref 2024
•    Bydd angen i’r Gadair gael ei chwblhau’n llawn erbyn Ebrill 11 2025

Sylwer y bydd gofyn i’r gwneuthurwr gadw cofnod digidol o’r gwaith creu, er mwyn gallu hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth yn ddigidol drwy gydol y cyfnod llunio. Yr Eisteddfod yn ganolog, ac nid y gwneuthurwr, fydd yn cysylltu efo’r cyfryngau. 
•    Y dyddiad i’w chyflwyno i Bwyllgor Gwaith yr Eisteddfod a’r lansiad i’r wasg
•    yw canol Mehefin 2025 (bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn bresennol)
•    Dyddiad y Cadeirio yw dydd Gwener 8 Awst 2025
•    Gofynnir i’r gwneuthurwr ddarparu lluniau amrywiol safonol i’r Eisteddfod, unwaith i’r Gadair gael ei chwblhau ar gyfer Rhaglen y Dydd a hyrwyddo cyffredinol (11 Ebrill 2025)
 

SUT I WNEUD CAIS

Danfonwch eich cais mewn e-bost at Annest Llwyd, Swyddog Gweithredol Sirol  dinbychfflint@fuw.org.uk cyn 17:00, 21 Hydref 2025

Dylai gynnwys y canlynol:

  1. Enw llawn a manylion cyswllt
  2. Bywgraffiad, gan gynnwys enghreifftiau graffigol (e.e. brasluniau, ffotograffau) o waith blaenorol
  3. Cynnig gweledigaeth / cysyniad mewn llai na 500 gair, a chynllun / dyluniadau. Rhaid cynnwys delweddau yn y rownd gyntaf gan egluro’r cynllun ddrafft, y defnydd o’r deunyddiau (y feddylfryd amgylcheddol), ysbrydoliaeth ac yn y blaen.
  4. Dadansoddiad o’r gyllideb amcangyfrifiedig o flaen llaw
  5. Manylion cyswllt dau gleient blaenorol a allai ddarparu geirda

Caiff ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i wneud cyflwyniad 10 munud o hyd ar Zoom/Teams, a chymryd rhan mewn trafodaeth fer gyda phanel fydd yn cynnwys panel o’r Ysgol ynghyd â Chyfarwyddwr Artistig a/neu Reolwr Cystadlu yr Eisteddfod Genedlaethol, 24/25 Hydref 2024. Gofynnir iddynt hefyd gyflwyno datganiad ariannol byr drwy e-bost cyn y cyfarfod.

I wneud ymholiadau pellach, cysylltwch â Annest drwy’r cyfeiriad e-bost neu ffonio 01824 707198  uchod i drefnu sgwrs. 

Rhannu
Erthygl flaenorol Galwad am ddatgan diddordeb i greu Coron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 Galwad am ddatgan diddordeb i greu Coron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025
Erthygl nesaf Mae gardd gymunedol Rhos angen eich cefnogaeth Mae gardd gymunedol Rhos angen eich cefnogaeth

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English