Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Galwad am ddatgan diddordeb i greu Coron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Galwad am ddatgan diddordeb i greu Coron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025
Arall

Galwad am ddatgan diddordeb i greu Coron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 14, 2024 5:00 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Galwad am ddatgan diddordeb i greu Coron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025
RHANNU

Erthygl Gwadd- Eisteddfod Genedlaethol

Briff Coron 2025

Y CYSYNIAD

Rydym yn gwahodd pobl i fynegi diddordeb mewn dylunio a chreu Coron Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Caiff ei chyflwyno i enillydd un o ddwy gystadleuaeth farddol fwyaf yr Eisteddfod, a gynhelir yn Wrecsam rhwng 2-9 Awst 2025. Elin Haf Davies sydd yn noddi Coron yr Eisteddfod yn 2025, ac felly Elin fydd yn cytundebu’r ymgeisydd llwyddiannus maes o law.

Y Goron yw un o brif anrhydeddau’r Eisteddfod, a dylai’r dyluniad a’r gwneuthuriad fod o’r safon uchaf. Mae’n symbol a ddefnyddir mewn seremoni gyhoeddus a gynhelir ar y llwyfan mawr ger bron miloedd o bobl ar ddydd Llun yr Eisteddfod, ac felly bydd angen i’r dyluniad terfynol a gyflwynir cael ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Orsedd cyn dechrau ar y gwaith (Hydref 2024).

MEINI PRAWF DYLUNIO
Dathlu tirwedd, diwylliant a hanes yr ardal gan ystyried hefyd yr elfen amgylcheddol wrth greu o’r newydd.  

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn nodi bod RHAID cynnwys y canlynol yn y dyluniad:
• /|\ Y Nod Cyfrin. Dylid ei osod mewn lle amlwg ac urddasol
• Enw swyddogol yr Eisteddfod sef: 
Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025
Noder: Ni chaniateir unrhyw eiriau eraill
• Dylai’r Goron gael ei chwblhau erbyn Ebrill 11 2025

/|\ Y NOD CYFRIN
Mae’r Nod Cyfrin /|\ neu Nod y Pelydr Golau yn symbol a ddyfeisiwyd gan Iolo Morganwg i gynrychioli Cariad, Cyfiawnder a’r Gwir. Fodd bynnag, ni wnaeth Iolo ei hun fawr ddim defnydd o’r symbol, ac ni ddaeth yn fwyfwy poblogaidd tan ar ôl ei farwolaeth. Fe’i gwelwyd yn gyntaf ar y Sgrôl Gyhoeddi yng Nghaerdydd, 1833: erbyn 1850, gellid ei weld ar faneri’r gorseddau ac o tua 1860 ar dystysgrifau aelodau newydd. Erbyn diwedd y ganrif fe’i hystyrid yn symbol cymeradwy Gorsedd y Beirdd, ac ymddangosodd ar ei rhaglenni, ar y faner newydd ac weithiau hyd yn oed ar Gerrig yr Orsedd. Erbyn y 1950au, penderfynwyd bod yn rhaid cynnwys y symbol ar bob un o Gadeiriau a Choronau’r Eisteddfod. (www.eisteddfod.cymru)

CAMAU CYLLIDEBOL A PHROSIECT
Y gyllideb ar gyfer dylunio a chreu’r Goron yw hyd at £3,000, i’w dalu mewn tri rhandaliad o dderbyn cyllideb fanwl ac anfoneb:
•    Cam 1 – Gweledigaeth a chynllun ddrafft a chymeradwyaeth gan yr Ysgol a Bwrdd yr Orsedd: Taliad o 33% ddiwedd Hydref 2024
•    Cam 2 – Taliad o 33% ddiwedd Rhagfyr 2024
•    Cam 3 – Cwblhau’r Goron: taliad olaf ar ôl ei chyflwyno’n orffenedig a’i chymeradwyo gan yr Eisteddfod ynghyd â lluniau swyddogol, 11 Ebrill 2025

AMSERLEN
•    Rhaid cyflwyno’r cais cyn 17:00, 21 Hydref 2025
•    Cynhelir cyfweliadau’r ymgeiswyr ar y rhestr fer ar ddydd Iau 24 neu ddydd Gwener 25 Hydref 2024
•    Bydd angen i’r weledigaeth gychwynnol a chynllun ddrafft fod yn barod erbyn y cyfweliad 
•    Bydd y cynllun angen cael ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Orsedd ddiwedd Hydref 2024
•    Bydd angen i’r Goron gael ei chwblhau’n llawn erbyn 11 Ebrill 2025 

Sylwer y bydd gofyn i’r gwneuthurwr gadw cofnod digidol o’r gwaith creu, er mwyn gallu hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth yn ddigidol drwy gydol y cyfnod llunio. Yr Eisteddfod yn ganolog, ac nid y gwneuthurwr, fydd yn cysylltu efo’r cyfryngau. 
•    Y dyddiad i’w chyflwyno i Bwyllgor Gwaith yr Eisteddfod a’r lansiad i’r wasg yw canol Mehefin 2025 (bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn bresennol)
•    Dyddiad y Coroni yw dydd Llun 4 Awst 2025
•    Gofynnir i’r gwneuthurwr ddarparu lluniau amrywiol safonol i’r Eisteddfod, unwaith i’r Goron gael ei chwblhau ar gyfer Rhaglen y Dydd a hyrwyddo cyffredinol

SUT I WNEUD CAIS

Danfonwch eich cais mewn e-bost at Elin Haf Davies: elin@elinhafdavies.co.uk erbyn 17:00, 21 Hydref 2024

 Dylai gynnwys y canlynol:

  1. Enw llawn a manylion cyswllt
  2. Bywgraffiad, gan gynnwys enghreifftiau graffigol (e.e. brasluniau, ffotograffau) o waith blaenorol
  3. Cynnig gweledigaeth/ cysyniad mewn llai na 500 gair, a chynllun/dyluniadau. Rhaid cynnwys delweddau yn y rownd gyntaf gan egluro’r cynllun ddrafft, y defnydd o’r deunyddiau (y feddylfryd amgylcheddol), ysbrydoliaeth ac yn y blaen.
  4. Dadansoddiad o’r gyllideb amcangyfrifiedig o flaen llaw
  5. Manylion cyswllt dau gleient blaenorol a allai ddarparu geirda

Caiff ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i wneud cyflwyniad 10 munud o hyd ar Zoom/Teams, a chymryd rhan mewn trafodaeth fer gyda phanel fydd yn cynnwys Elin ynghyd â Chyfarwyddwr Artistig a/neu Reolwr Cystadlu yr Eisteddfod Genedlaethol, 24 neu 25 Hydref 2024. Gofynnir iddynt hefyd gyflwyno datganiad ariannol byr drwy e-bost cyn y cyfarfod.

I wneud ymholiadau pellach, cysylltwch â elin@elinhafdavies.co.uk neu steffan@eisteddfod.cyrmu 

Rhannu
Erthygl flaenorol Achub dy groen Gymru, achub dy groen! Ond gallwn wneud yn well fyth, yn enwedig wrth daclo gwastraff bwyd – Bydd Wych. Ailgylcha.
Erthygl nesaf Galwad agored am wneuthurwyr i ddatgan diddordeb i gynllunio a chreu cadair Eisteddfod 2025. Galwad agored am wneuthurwyr i ddatgan diddordeb i gynllunio a chreu cadair Eisteddfod 2025.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

wall proposal
ArallPobl a lle

Cyngor Wrecsam yn parhau i gydweithio â Solar Windows ar Fenter Ffenestri a Drysau Fawr

Mehefin 23, 2026
housing development plan
Arall

Ymgynghoriad cyhoeddus ar ailddatblygu Ffordd Rhosddu i ddechrau heddiw

Mai 18, 2026
Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos
ArallPobl a lle

Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos

Mawrth 17, 2026
'Amgueddfa Dau Hanner' Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed - mewn lluniau
30
Arall

‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau

Chwefror 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English