Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Galwad Agored: Sut y gallwch fod yn rhan o raglen cerddoriaeth fyw Tŷ Pawb ar gyfer 2021/22
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Pobl a lle Y cyngor
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ - Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ – Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
Pobl a lle
Driving
Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya
Arall
Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall
Recycling
Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Galwad Agored: Sut y gallwch fod yn rhan o raglen cerddoriaeth fyw Tŷ Pawb ar gyfer 2021/22
Y cyngor

Galwad Agored: Sut y gallwch fod yn rhan o raglen cerddoriaeth fyw Tŷ Pawb ar gyfer 2021/22

Diweddarwyd diwethaf: 2021/02/15 at 1:12 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Ty Pawb
RHANNU

Mae Tŷ Pawb yn gwahodd cerddorion creadigol i gyflwyno eu ceisiadau i’w cynnwys yn eu rhaglen cerddoriaeth fyw 2021-22, yn ddigidol ac mewn person.

Cynnwys
Meini prawf cymhwyseddSut i wneud cais

Ers i gyfyngiadau gael eu cyflwyno oherwydd y pandemig ym Mawrth 2020 maen nhw wedi bod yn cyflwyno eu rhaglen cerddoriaeth fyw mewn fformat cwbl ddigidol trwy Facebook Live a’u sianel YouTube.

Maen nhw wedi cynnal 20 o sesiynau byw gydag artistiaid lle mae pobl wedi edrych arnyn nhw dros 40,000 o weithiau, a chefnogi cerddorion creadigol yn ystod cyfnod o her anrhagweladwy i’r diwydiant.

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Bydd eu sesiynau byw yn parhau trwy 2021 ac i mewn i 2022 ac maen nhw rŵan yn edrych am ddatganiadau o ddiddordeb gan gerddorion creadigol i siapio eu rhaglen trwy godi tâl ar bobl am berfformiadau ar-lein ac unwaith y bydd y cyfyngiadau yn cael eu codi mewn person yn y lleoliad. Gall sesiynau digidol fod mewn fformat ffrydio byw neu sesiwn byw wedi’i recordio o flaen llaw a’i ddarlledu am y tro cyntaf ar Facebook a YouTube.

Meini prawf cymhwysedd

  • Rhaid i unrhyw fersiynau clawr o ddeunydd beidio â defnyddio traciau cefndirol oherwydd cyfyngiadau hawlfraint
  • Dylai perfformiadau bara rhwng 30-60 munud
  • Ar gyfer ffrydiau byw digidol dylai artistiaid gael rhyngrwyd o ansawdd da (cyflymder lanlwytho o leiaf 5MB) a gwe-gamera o ansawdd da a meic USB allanol lle bo hynny’n bosibl
  • Os ydych yn recordio sesiwn fyw wedi’i recordio ymlaen llaw, dylai artistiaid medru cynhyrchu ansawdd sain a fideo o safon uchel
  • Mae profiad o gynhyrchu cynnwys byw digidol yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol
  • Mae presenoldeb cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein e.e. sianel Instagram/tudalen Facebook/gwefan yn ddymunol ond nid yn hanfodol
  • Nid oes unrhyw gyfyngiadau daearyddol ar gyfer perfformiadau ar-lein
  • Croesawn geisiadau gan artistiaid sy’n gweithio mewn unrhyw genre o bob cefndir

Sut i wneud cais

Cyflwynwch eich cais drwy e-bost at Swyddog Digwyddiadau Tŷ Pawb Morgan Thomas (Morgan.Thomas@wrexham.gov.uk). Yn eich cynnig, dylech gynnwys y canlynol:

  • Bywgraffiad cyffredinol ohonoch chi eich hun a’ch cerddoriaeth – gallai hyn gynnwys eich genre, profiad, os ydych wedi’ch arwyddo i label cerddoriaeth benodol ac yyb
  • O leiaf 2 enghraifft o’ch cerddoriaeth – yn ddelfrydol i gynnwys fideo o berfformiad byw
  • Dolenni i’ch gwefan, tudalennau cyfryngau cymdeithasol, Bandcamp, Spotify ac yyb
  • Unrhyw gwestiynau sydd gennych am y cyfle

Nid oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, ond nodwch fod cynllunio rhaglen ar gyfer 2021-22 ar y gweill ac rydym yn awyddus i glywed gennych cyn gynted â phosibl.

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ystadegau-brechu-lleol-ar-gyfer-gogledd-cymru1/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol School pencils Mae gwaith cynllunio yn mynd rhagddo ar gyfer dychwelyd disgyblion cyfnod sylfaen yn ofalus i ysgolion Wrecsam
Erthygl nesaf Climate Change Newid Hinsawdd – Estynnir gwahoddiad i chi i’n gweithdy ar-lein am ein cynlluniau i warchod ein hamgylchedd.

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Pobl a lle Y cyngor Medi 5, 2025
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ - Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ – Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
Pobl a lle Medi 4, 2025
Driving
Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya
Arall Medi 3, 2025
Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall Medi 1, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Pobl a lleY cyngor

Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25

Medi 5, 2025
Recycling
Y cyngor

Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…

Awst 30, 2025
admissions
Busnes ac addysgY cyngor

Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026

Awst 29, 2025
Red Ensign
Pobl a lleY cyngor

Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol

Awst 27, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English