Ydych chi’n gwybod am blentyn sy’n gallu ysgrifennu stori wirioneddol wych?
Os ydych chi, gallan nhw ennill 480 o lyfrau i’w hysgol*, ynghyd â RocketBook a thaleb Amazon £50 i’w hunain.
Mae Llyfrgelloedd Cymru wedi dod ynghyd â’u ffrindiau, Cymdeithas Alzheimer’s Cymru, i helpu codi ymwybyddiaeth ynglŷn â dementia ac mae angen straeon anhygoel arnynt.
Meddyliwch am rai o’ch hoff atgofion… taith i lan y môr gyda’ch taid, coginio gyda’ch nain neu efallai frwydro yn erbyn dreigiau mewn castell! Rŵan, allech chi droi atgofion bendigedig yn stori drawiadol?
Bob dydd, mae 480 o bobl ledled y DU yn datblygu dementia, ac mae colli’r cof yn rhan fawr o daith rhywun gyda dementia.
Bydd y straeon yn cael eu beirniadu gan awduron a phobl yn byw gyda dementia ledled Cymru, a fydd yn penderfynu ar enillydd y brif wobr a gwobrau i’r ddau nesaf at y gorau.
Y dyddiad cau ar gyfer cymryd rhan yw 15 Awst, 2019 a gall plant a phobl ifanc 4-16 oed anfon straeon i mewn.
Dylech gyflwyno eich straeon yn eich llyfrgell leol – dim mwy na 480 o eiriau. Mae angen i’r cynigion gynnwys enw, oedran ac ysgol (enw’r dosbarth hefyd) yr ysgrifenwyr ar ddiwedd y stori. Croesawn straeon wedi eu hysgrifennu mewn unrhyw iaith. Byddem hefyd wrth ein boddau i weld darluniau i gyd-fynd â’r stori!! Gallwch hefyd anfon straeon drwy e-bost fel dogfennau Word i: dementiafriendly@cardiff.gov.uk
Edrychwn ymlaen at ddarllen am lu o’ch atgofion bendigedig.
*Bydd Llyfrgelloedd Cymru yn gweithio’n agos gyda’r ysgol fuddugol i ddewis 480 o lyfrau yn ofalus. I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â: dementiafriendly@cardiff.gov.uk
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN