Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Galwadau nad oeddynt yn rhai brys yn cynrycholi bron i chwarter y galwadau 999 yn ystod y penwythnos
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Galwadau nad oeddynt yn rhai brys yn cynrycholi bron i chwarter y galwadau 999 yn ystod y penwythnos
ArallY cyngor

Galwadau nad oeddynt yn rhai brys yn cynrycholi bron i chwarter y galwadau 999 yn ystod y penwythnos

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 28, 2021 4:47 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Wels
RHANNU

Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn parhau’n brysur iawn yn dilyn datgan Digwyddiad Parhad Busnes yr wythnos ddiwethaf lle’r oedd y galw’n goresgyn y gallu i ymateb.

Y penwythnos hwn yn unig (24-26 Gorffennaf) derbyniodd yr Ymddiriedolaeth fwy na 4,400 o alwadau, gyda llawer ohonyn nhw (22%) yn y categori galwadau lleiaf difrifol ‘Gwyrdd’. Roedd hyn yn gynnydd o 4% ar y penwythnos blaenorol (16-18 Gorffennaf).

Ymhlith y galwadau 999 ‘gwyrdd’ hyn roedd problemau fel llosg haul, methu mynd i’r toiled a phoen yn y cefn ar ôl garddio – y cyfan yn bethau y gellir eu trin yn aml trwy hunan ofal, gofyn i fferyllydd neu edrych ar y Gwiriwr Symptomau ar GIG 111 Cymru

Dywedodd Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Rydym ni’n gofyn i bobl ystyried y dewisiadau amgen yn hytrach na galw 999 os nad yw eu sefyllfa yn argyfwng sy’n peryglu bywyd – bydd hyn yn ein cynorthwyo ni i roi cymorth i’r rhai mewn mwyaf o angen ein ambiwlansau brys.

“Mae’n hanfodol bwysig fod pobl yn dechrau defnyddio un o’r llu o ddewisiadau amgen i 999 ar gyfer cyflyrau nad ydyn nhw’n rhai brys, gan ddechrau gyda’r gwirwyr symptomau ar wefan GIG 111 Cymru yn ogystal â’u meddyg teulu, fferyllydd ac Uned Mân Anafiadau.

“Os nad yw eich galwad ynghylch argyfwng lle mae bywyd dan fygythiad ond rydych chi’n teimlo eich bod chi angen triniaeth yn yr ysbyty, efallai y gofynnir i chi ystyried dull cludiant amgen megis teulu, ffrindiau neu gymdogion a allai eich danfon yno.”

Gydag un o bob pump o bobl yng Nghymru wedi’u heffeithio gan gyflwr ar yr ysgyfaint, roedd ffonio 999 oherwydd problem yn gysylltiedig ag anadlu’n cynrychioli 11.6% o’r galwadau ar y penwythnos.

Mae llawer o gyflyrau anadlu’n cael eu gwaethygu gan newid yn y tywydd, yn cynnwys gwres eithafol fel rydym ni wedi bod yn ei gael. Dywedodd Joseph Carter, Pennaeth Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru: “Mae rhai pobl yn canfod fod tywydd poeth yr haf yn achosi i symptomau eu cyflwr ar yr ysgyfaint waethygu.

“Dyma pam ei bod hi mor bwysig deall y sbardunau tywydd sy’n effeithio arnoch chi’n bersonol a chynllunio ymlaen llaw.

“Mae gennym ni 314,000 o bobl ag asthma a 76,000 gyda Chlefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint yng Nghymru, felly mae’n bwysig edrych ar ôl eraill yn ogystal â ni ein hunain, a rhai cynghorion gwych yw:

  • Gall lefelau paill a llygredd uchel gyfuno â gwres a chynyddu eich siawns o symptomau’n gwaethygu, felly gwnewch yn siwr eich bod chi’n edrych ar ragolygon y tywydd, paill a llygredd.
  • Defnyddiwch ffan llaw os ydych chi’n mynd yn ddianadl ac ewch am gawod neu fath i oeri os ydych chi’n teimlo eich bod yn gorboethi.
  • Cymerwch ddigonedd o ddwr oer ac yfed yn rheolaidd, hyd yn oed os nad ydych chi’n teimlo’n sychedig.
  • Os ydych chi’n defnyddio anadlyddion, cadwch nhw mewn lle oer, lle bo’n bosibl, allan o olau haul uniongyrchol, fel eu bod nhw’n parhau i weithio’n dda. Edrychwch ar y daflen ar gyfer cyfarwyddiadau storio eich anadlydd.
  • Lawrlwythwch yr ap asthma neu Glefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint GIG Cymru am ddim, gan y bydd y rhain yn eich cynorthwyo i ddeall a rheoli eich asthma neu Glefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint yn well.

Edrychwch ar https://www.blf.org.uk/ am ragor o wybodaeth ynghylch cyflyrau anadlu.

Rhannu
Erthygl flaenorol Dyn wedi’i ddirwyo am droi tenant allan yn anghyfreithlon Dyn wedi’i ddirwyo am droi tenant allan yn anghyfreithlon
Erthygl nesaf Playday Paratowch i gael hwyl! Mae Diwrnod Chwarae 2021 lai nag wythnos i ffwrdd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English