Daeth grwpiau Trochi Cymraeg o bob cwr o Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych at ei gilydd yng Nglan Llyn yn ddiweddar i fwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cafodd yr ymweliad ei drefnu er mwyn dathlu llwyddiant cohort eleni cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau i addysg prif ffrwd gan eu bod bellach yn rhugl yn y Gymraeg.
Mae’r ddarpariaeth Drochi yn cefnogi plant o leoliadau cynradd cyfrwng Saesneg i drosglwyddo i leoliadau uwchradd cyfrwng Cymraeg. Maent yn darparu cwrs pontio dwys yn ystod tymor yr haf ym mlwyddyn 6 tan ddiwedd blwyddyn 8. Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o’r disgyblion a ymwelodd â Glan Llyn yn ddiweddar wedi cyrraedd rhuglder llawn erbyn diwedd blwyddyn 7!
Mwynhaodd y disgyblion ddiwrnod llawn hwyl yn canŵio ar y llyn, mynd i’r afael â’r cwrs rhaffau uchel a’r wal ddringo, gan orffen trwy dostio malws melys wrth sgwrsio am eu diwrnod.
Daethant oddi yno yn falch o’u cyflawniadau, nid yn unig wrth herio eu hunain yn ystod y gweithgareddau, ond hefyd wrth edrych yn ôl ar ba mor bell y maent wedi dod ar eu siwrnai o ddysgu Cymraeg gan eu bod bellach yn siaradwyr Cymraeg hyderus.
Ariannwyd yr ymweliad undydd hwn trwy grant gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu darpariaethau trochi Cymraeg.
Dywedodd Eleri Vaughan Roberts, Rheolwr Tîm y Gwasanaeth Trochi Cymraeg: “Rwy’n eithriadol o falch o’n gwasanaeth a’n hymrwymiad i gefnogi plant i bontio i addysg cyfrwng Cymraeg ac rwy’n arbennig o falch o ymdrechion a brwdfrydedd ein disgyblion.
Mae plant yn mynychu ysgolion cynradd o bob rhan o’r sir ac yn cael eu cefnogi nid yn unig i gaffael yr iaith ond hefyd i fod yn hyderus, yn hapus, yn frwdfrydig ac yn barchus yn eu hiaith newydd, ac rwy’n hyderus y bydd eu sgiliau dwyieithog yn fanteisiol iawn iddynt yn y dyfodol. Mae’n gwrs arloesol sy’n sicrhau bod lles y plant yn ganolbwynt i bopeth a wnawn, ac mae’r ethos hwn yn gyfrifol am lawer o’n llwyddiant.”
Rydym wedi gweld cynnydd mawr mewn diddordeb yn y cwrs dros y blynyddoedd diwethaf wrth i fwy a mwy o rieni gydnabod manteision rhoi’r cyfle i’w plant fod yn ddwyieithog.
Gwahoddir plant blwyddyn 6 i fynychu cwrs ‘blasu’ trochi yn ystod hanner tymor olaf yr haf sy’n rhoi’r cyfle iddyn nhw weld a yw’r opsiwn cyfrwng Cymraeg yn addas iddyn nhw. Os oes gennych ddiddordeb gallwch ddal i gofrestru ar gyfer y cwrs nesaf a fydd yn dechrau ar 5 Mehefin.
Am fwy o fanylion am unrhyw beth yr ydych wedi’i ddarllen cysylltwch â trochi@wrexham.gov.uk.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD