Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Taith i Lan Llyn ar gyfer disgyblion sydd wedi dod yn ddwyieithog mewn blwyddyn!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Taith i Lan Llyn ar gyfer disgyblion sydd wedi dod yn ddwyieithog mewn blwyddyn!
Pobl a lle

Taith i Lan Llyn ar gyfer disgyblion sydd wedi dod yn ddwyieithog mewn blwyddyn!

Diweddarwyd diwethaf: Mai 25, 2023 2:44 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Glan Llyn
RHANNU

Daeth grwpiau Trochi Cymraeg o bob cwr o Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych at ei gilydd yng Nglan Llyn yn ddiweddar i fwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored trwy gyfrwng y Gymraeg.

Missed bin collection? Let us know.

Cafodd yr ymweliad ei drefnu er mwyn dathlu llwyddiant cohort eleni cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau i addysg prif ffrwd gan eu bod bellach yn rhugl yn y Gymraeg.

Mae’r ddarpariaeth Drochi yn cefnogi plant o leoliadau cynradd cyfrwng Saesneg i drosglwyddo i leoliadau uwchradd cyfrwng Cymraeg.  Maent yn darparu cwrs pontio dwys yn ystod tymor yr haf ym mlwyddyn 6 tan ddiwedd blwyddyn 8. Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o’r disgyblion a ymwelodd â Glan Llyn yn ddiweddar wedi cyrraedd rhuglder llawn erbyn diwedd blwyddyn 7!

Mwynhaodd y disgyblion ddiwrnod llawn hwyl yn canŵio ar y llyn, mynd i’r afael â’r cwrs rhaffau uchel a’r wal ddringo, gan orffen trwy dostio malws melys wrth sgwrsio am eu diwrnod.

Daethant oddi yno yn falch o’u cyflawniadau, nid yn unig wrth herio eu hunain yn ystod y gweithgareddau, ond hefyd wrth edrych yn ôl ar ba mor bell y maent wedi dod ar eu siwrnai o ddysgu Cymraeg gan eu bod bellach yn siaradwyr Cymraeg hyderus.

Ariannwyd yr ymweliad undydd hwn trwy grant gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu darpariaethau trochi Cymraeg.

Dywedodd Eleri Vaughan Roberts, Rheolwr Tîm y Gwasanaeth Trochi Cymraeg: “Rwy’n eithriadol o falch o’n gwasanaeth a’n hymrwymiad i gefnogi plant i bontio i addysg cyfrwng Cymraeg ac rwy’n arbennig o falch o ymdrechion a brwdfrydedd ein disgyblion.

Mae plant yn mynychu ysgolion cynradd o bob rhan o’r sir ac yn cael eu cefnogi nid yn unig i gaffael yr iaith ond hefyd i fod yn hyderus, yn hapus, yn frwdfrydig ac yn barchus yn eu hiaith newydd, ac rwy’n hyderus y bydd eu sgiliau dwyieithog yn fanteisiol iawn iddynt yn y dyfodol.  Mae’n gwrs arloesol sy’n sicrhau bod lles y plant yn ganolbwynt i bopeth a wnawn, ac mae’r ethos hwn yn gyfrifol am lawer o’n llwyddiant.”

Rydym wedi gweld cynnydd mawr mewn diddordeb yn y cwrs dros y blynyddoedd diwethaf wrth i fwy a mwy o rieni gydnabod manteision rhoi’r cyfle i’w plant fod yn ddwyieithog.

Gwahoddir plant blwyddyn 6 i fynychu cwrs ‘blasu’ trochi yn ystod hanner tymor olaf yr haf sy’n rhoi’r cyfle iddyn nhw weld a yw’r opsiwn cyfrwng Cymraeg yn addas iddyn nhw.  Os oes gennych ddiddordeb gallwch ddal i gofrestru ar gyfer y cwrs nesaf a fydd yn dechrau ar 5 Mehefin.

Am fwy o fanylion am unrhyw beth yr ydych wedi’i ddarllen cysylltwch â trochi@wrexham.gov.uk.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

Taith i Lan Llyn ar gyfer disgyblion sydd wedi dod yn ddwyieithog mewn blwyddyn! Taith i Lan Llyn ar gyfer disgyblion sydd wedi dod yn ddwyieithog mewn blwyddyn! Taith i Lan Llyn ar gyfer disgyblion sydd wedi dod yn ddwyieithog mewn blwyddyn!

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Over 60s exercise Cynnig 60 Oed a hyn: Cynllun Hamdden Actif 60+
Erthygl nesaf New city - new career. Work for Wrexham Council Eisiau gweithio yn Wrecsam? Allech chi wneud unrhyw un o’r swyddi hyn?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam 2029
Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU
Pobl a lle
Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref
Pobl a lle Arall
Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle

Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol

Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Pobl a lleDatgarboneiddio WrecsamDigwyddiadau

Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)

Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle

Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English