Fel yr adroddwyd, mae gŵyl gerddorol Wrecsam wedi’i gohirio am yr ail waith. Mae’r digwyddiad nawr yn cael ei gynllunio ar gyfer mis Mai 2023. Mae trefnwyr y digwyddiad wedi datgan y caiff y sawl sydd wedi prynu tocynnau un ai eu defnyddio ar gyfer digwyddiad y flwyddyn nesaf neu dderbyn ad-daliad llawn.
Os oes gennych docynnau ar gyfer y digwyddiad hwn neu unrhyw ddigwyddiad arall sydd wedi’i ganslo neu’i ohirio, dyma rywfaint o gyngor defnyddiol i ddefnyddwyr gan Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae’n hawl gyfreithiol os ydych yn prynu tocyn gan werthwr swyddogol, eich bod yn cael ad-daliad os yw’r trefnwyr yn canslo, symud neu aildrefnu’r digwyddiad. Ond, gallwch ddewis cadw’r tocyn ar yr amod fod y digwyddiad yn cael ei aildrefnu. Os ydych wedi dewis cael eich ad-dalu ac nad yw’n ymddangos fod ad-daliad ar ei ffordd, gallwch roi gwybod am y mater i Safonau Masnach trwy gysylltu â’r Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 neu 0808 223 1144 os hoffech siarad â chynghorwr Cymraeg. Gallwch hefyd roi gwybod am y mater trwy ddefnyddio ffurflen ar-lein.