Bydd milwyr yn gorymdeithio trwy’r dref ym mis Medi wrth i’r Gwarchodlu Cymreig ymarfer eu hawl i gynnal Gorymdaith Ryddid!
Byddant yma ddydd Mawrth 17 Medi gyda’u band gorymdeithio, bidogau a baneri’n hedfan. 🙂
Derbyniodd y Gwarchodlu Cymreig Ryddid y Fwrdeistref Sirol yn 2014 mewn seremoni a gynhaliwyd yng nghanol y dref. Trwy roi’r Rhyddid i’r Gwarchodlu Cymreig, fe gydnabuwyd yn ffurfiol eu cyfraniad i’r fwrdeistref sirol a’u perthynas gyda’r awdurdod a phobl Wrecsam.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Bydd dyddiad yr orymdaith yn cyd-fynd â chyngerdd a gynhelir yn y barics ar 17 Medi a bydd y manylion yn cael eu rhyddhau gan y trefnwyr, Cyllid Lles y Fyddin.
“Ymhle y gallaf eu gweld?”
Bydd yr Orymdaith yn dechrau yn y Barics, Hightown, am 11am gan symud mewn i’r dref ar hyd Ffordd Melin y Brenin, Ffordd Sir Amwythig, Stryt Yorke, Stryt Caer, Stryt y Lampint, Stryt y Frenhines cyn troi mewn i Sgwâr y Frenhines ac ymgynnull ar Lawnt Llwyn Isaf am 11.30am.
Dywedodd y Cyng. David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Fe fydd hi’n wledd i’r llygaid a dwi’n gwybod y bydd trigolion Wrecsam yn falch o groesawu’r Gwarchodlu Cymreig yn ôl i Wrecsam.”
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION