Bydd defnyddwyr y ffordd sy’n dod i mewn i Sir Wrecsam eleni yn cael eu croesawu gan arwydd newydd ar ochr y ffordd i borth Wrecsam o ganlyniad i bron i £30,000 o gyllid sydd wedi ei sicrhau gan Lywodraeth Cymru fel rhan o raglen Y Pethau Pwysig.
Mae’r arwydd newydd wedi ei godi fel rhan o ymrwymiad Cyngor Wrecsam i gefnogi Cynllun Rheoli Cyrchfan y Sir a chreu argraff smart a chroesawgar i ymwelwyr a ddaw i’r sir.
Sicrhawyd £29,807 ar gyfer Wrecsam o raglen Y Pethau Pwysig o gronfa £5 miliwn ar draws Cymru ar gyfer 2023-25, a gaiff ei rhannu rhwng 29 o brosiectau a fydd yn helpu i gyflawni gwelliannau isadeiledd ar raddfa fach mewn lleoliadau i ymwelwyr ar hyd a lled Cymru.
Mae’r gronfa’n cefnogi awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol i gyflawni gwelliannau a fydd o fudd i ymwelwyr a chymunedau lleol. Yn ogystal â’r arwydd yn Wrecsam, mae’r gronfa eleni’n cefnogi amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys mentrau i helpu i leddfu pwysau mewn ardaloedd lle mae cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, prosiectau i wella hygyrchedd a phrosiectau sy’n gwneud eu cyrchfannau yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam;
“Rydym yn hynod o falch o fod wedi sicrhau’r cyllid hwn o’r rhaglen Y Pethau Pwysig a bydd yr arwydd newydd yn ychwanegiad i’n priffyrdd a gaiff ei groesawu wrth i ni ddechrau ar y tymor ymwelwyr newydd. Mae’r arwydd yn adlewyrchu ein statws Dinas newydd a roddwyd yn 2022 ac mae’n disodli’r hen arwydd i wella argraffiadau cyntaf defnyddwyr y ffyrdd.”
Dywedodd Hannah Blythyn, Gweinidog Twristiaeth Llywodraeth Cymru:
“Bydd y buddsoddiad £5 miliwn hwn ar gyfer ystod o brosiectau newydd yn helpu i ddarparu profiad ymwelwyr o’r radd flaenaf i bobl sy’n dewis gwyliau yng Nghymru.
“Mae’r prosiectau a gefnogir drwy’r gronfa Pethau Pwysig yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae gan amwynderau twristiaeth lleol ran fawr i’w chwarae mewn gwneud taith yn un gofiadwy ac er na sylwir yn aml ar y mathau hyn o gyfleusterau, maent yn rhan bwysig o brofiad ymwelydd, tra’u bod hefyd o fudd i’r rhai hynny sy’n byw yn y cymunedau hyn.”
Yn ychwanegol at yr arwydd croeso, bydd y cyllid a sicrhawyd hefyd yn galluogi adnewyddu sawl bwrdd gwybodaeth i ymwelwyr mewn cilfannau ffyrdd dosbarth A yn yr Orsedd, Y Waun, Bwlchgwyn ac ar y ffin â’r Eglwys Wen.