Bydd yr ardd synhwyraidd newydd yng Ngardd Furiog Fictoraidd Erlas yn cael ei hagor yn swyddogol ar 18 Medi am 11am. Mae croeso i bawb grwydro’r ardd synhwyraidd newydd sbon.
Mae’r gofod newydd a deniadol hwn wedi’i leoli ychydig y tu allan i waliau hanesyddol yr ardd furiog Fictoraidd wreiddiol. Mae llwybr troellog sy’n eich arwain drwy nifer o welyau blodau hardd, wedi’u dylunio i ddeffro’r synhwyrau.
Bydd yr ardd yn cael ei hagor gan y Maer, y Cynghorydd Beryl Blackmore ac un o weithwyr Gardd Furiog Fictoraidd Erlas, Ellie Evans
Beth yw gardd synhwyraidd Erlas?
Mae’r ardd synhwyraidd yn caniatáu i ymwelwyr fwynhau amrywiaeth o brofiadau, fel lliwiau hardd gwelyau blodau, arogleuon yr holl blanhigion a naws y dail gwahanol sy’n chwarae â’r holl synhwyrau.
Mae’r prosiect wedi cynnwys adeiladu gwelyau uchel, llwybrau hygyrch i gadeiriau olwyn, mannau compost newydd a nodweddion synhwyraidd fel clychau gwynt a ffynhonnau dŵr.
Mae croeso i bawb ymweld â Gardd Furiog Erlas ar gyfer yr agoriad swyddogol. Fe’ch croesewir i’r ardd gyda lluniaeth am 11am, a bydd seremoni torri’r rhuban yn dechrau am 11.15.
I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad neu am ein prosiectau eraill, anfonwch e-bost at: localplacesfornature@wrexham.gov.uk
Dywedodd y Maer, y Cynghorydd Beryl Blackmore, “Rwy’n edrych ymlaen at ymweld â’r prosiect hwn ac at brofi’r ardd synhwyraidd drosof fy hun. Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r gwaith i ddod â’r ased ychwanegol hwn i’r ardal, ac am fy ngwahodd i fod yn rhan o’r seremoni agoriadol. Rwy’n siŵr y daw â llawer o bleser i lawer yn y dyfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, “Mae croeso mawr i’r ardd hygyrch hon ac mae’n ychwanegiad gwych i Brosiect Gardd Furiog hardd Erlas. Da iawn i bawb a fu’n rhan o’r prosiect.”
Ariannwyd y gwaith gan gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, a’r nod yw gwella mannau gwyrdd a mynediad pobl i fyd natur ar draws Wrecsam.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Tŷ Pawb i ddangos gemau Cynghrair y Cenhedloedd Cymru
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch