Ddeuddeg mis yn ôl fe wnaethom lansio cynllun grant newydd gyda chefnogaeth Cyllid Grant Gwella a Datblygu Eiddo Llywodraeth Cymru.
Roedd hyn yn golygu ein bod wedi gallu darparu cyllid llenwi bwlch ar gyfer deiliaid a pherchnogion adeiladau masnachol yng Nghanol Tref Wrecsam.
Bydd y cyllid grant ar gael tan fis Mawrth 2021.
Pwrpas y grant yw galluogi i wella blaen adeiladau, gwella ansawdd yr arwyddion a dod a gofod llawr masnachol gwag yn ôl i ddefnydd busnes buddiol.
Gall fusnesau sydd wedi sefydlu yn ogystal â mentrau newydd, elwa o’r grant wrth i ni geisio adfywio’r ardal.
Rydym yn falch o gyhoeddi bod y cyllid eisoes wedi cael effaith fawr mewn rhannau o Ganol Tref Wrecsam, ac wedi bod yn llwyddiannus i gynorthwyo i gynnal a thyfu busnesau presennol a newydd.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Mewn cydweithrediad â chynlluniau cyllido eraill, megis grant Covid- 19, mae wedi cyfrannu’n sylweddol tuag at adferiad parhaus Canol Tref Wrecsam.
Mae Frisky Pudding a Teds Bar yn ddau fusnes lletygarwch newydd sydd wedi cymryd mantais o’r grant, maent yn meddiannu dau eiddo mawr a fyddai wedi aros yn wag fel arall.
Dywedodd John Blaney o Frisky Pudding: “Roedd y grant yn gyllid hanfodol tuag at adfer ein hadeilad. Cynorthwyodd i gefnogi ein busnes i drawsnewid uned manwerthu gwag a oedd wedi dirywio ar ôl bod yn wag am 12 mlynedd.
“Roedd yr arian wedi helpu i dalu am wres, golau a thoiledau newydd. Cyfrannodd tuag at drawsnewid Hen Fanc Barclays rhestredig Gradd 2 ar Stryd Fawr Wrecsam i far a bwyty newydd – sydd wedi agor yn llwyddiannus ac yn cyflogi 22 o bobl. Heb y grant ni fyddwn wedi gallu cwblhau’r prosiect”.
Mae’r busnesau hyn yn ychwanegiadau pwysig i’r economi dydd a nos, ac wedi profi’n boblogaidd iawn, yn arbennig ymysg teuluoedd a phobl ifanc, gan gyfrannu tuag at gyrchfan mwy bywiog a deniadol.
I gael ffurflen cyn ymgeisio a rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at grants@wrexham.gov.uk.
Benthyciad Adfywio
Rydym hefyd yn darparu cyllid benthyciad heb log, trwy Lywodraeth Cymru, ar gyfer y cynllun Benthyciad Adfywio Canol y Dref.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Mae cynllun Benthyciad Adfywio Canol y Dref ar gael i berchnogion eiddo masnachol sydd angen eu gwella neu newid eu defnydd, o fewn Canol Tref Wrecsam.
Diben y benthyciad yw gwella’r eiddo er mwyn i’r perchennog barhau i’w ddefnyddio, ei werthu, ei rentu neu i agor safle gwag neu safle sydd wedi’i ddal yn ôl.
Ni chewch ddefnyddio’r benthyciad i ad-dalu unrhyw arian rydych chi eisoes wedi’i fenthyca.
Isafswm y benthyciad sydd ar gael yw £5,000, hyd at uchafswm o £1,000,000.
Tymor hiraf y benthyciad yw 5 mlynedd.
Gallwch ddefnyddio’r benthyciad ar y cyd â’r Grant Gwella a Datblygu Eiddo neu Grant Thematig Covid-19 Trawsnewid Trefi.
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at loans@wrexham.gov.uk.
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Rydym wedi gweld gwelliannau cosmetig dramatig mewn eiddo o amgylch Canol Tref Wrecsam, lle mae busnesau economi dydd a nos wedi gwneud defnydd da o’r cyllid sydd ar gael.
“Ein nod yw hybu adfywiad, a gobeithio hwyluso cyfleodd ychwanegol ar draws Canol Tref Wrecsam, a dyna’r rheswm ein bod yn atgoffa busnesau a pherchnogion adeiladau ein bod yn parhau i fod yma i gynorthwyo, ac yn fwy na hapus i weithio gyda chi i wneud y mwyaf i’r cynhyrchion ariannol sydd ar gael.”
Lawrlwythwch yr ap GIG