Wrth i’r argyfwng costau byw waethygu, a gyda’r gaeaf yn agosáu, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn bwriadu gwneud popeth posib i gefnogi ei drigolion yn ystod yr amseroedd anodd hyn.
Mae’r cyngor angen cymorth a chefnogaeth gan ein partneriaid yn ogystal â grwpiau cymunedol a sefydliadau ar draws y fwrdeistref sirol i gydweithio i gefnogi unigolion a theuluoedd bregus.
Mae’r cyngor yn dymuno darparu rhwydwaith o leoedd cynnes i gefnogi unrhyw un sy’n ei chael yn anodd gyda chostau byw. Rydym yn awyddus i weithio gydag unrhyw grŵp neu sefydliad cymunedol a fyddai’n gallu darparu lleoedd cynnes yn eu cymuned.
Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd y Grŵp Costau Byw: “Mae’r argyfwng costau byw y mae’r DU yn ei wynebu yn rhoi pwysau digynsail ar bobl, sy’n cael eu gorfodi i wneud penderfyniadau anodd ynghylch pryd a beth i’w fwyta, beth allant ei wneud mewn bywyd, a phryd y gallant fforddio i gynhesu eu cartref.
“Rydym eisiau gwneud mwy i helpu trigolion Wrecsam, ond ni allwn wneud hyn ar ben ein hunain. Rydym yn awyddus i weithio gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol, gan ddatblygu’r gwaith gwych a wnaed yn ystod y pandemig, i greu rhwydwaith o leoedd cynnes ble gall pobl ddod ynghyd, cynhesu, aros yn gynnes a mwynhau rhywfaint o gwmni.
“Os yw unrhyw sefydliad neu grŵp cymunedol yn gallu darparu lle cynnes y gaeaf hwn, rydym eisiau clywed gennych. Dyma ein cyfle i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n cymunedau a byddwn yn helpu trigolion yn ystod yr argyfwng hwn.”
Os ydych yn grŵp neu’n sefydliad sy’n gallu darparu lle cynnes e-bostiwch warmplaces@wrexham.gov.uk
Yn eich e-bost, dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Enw’r sefydliad
- Cyfeiriad
- E-bost
- Rhif ffôn/symudol
- Unigolyn cyswllt
(Sylwer y disgwylir i’r cynnig sylfaenol o le cynnes fod AM DDIM i bawb)
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI