Rydym ar fin anfon llythyrau i dai gyda gwybodaeth am sut i dalu’r taliadau bin gwyrdd sy’n dod i rym o 1 Ebrill.
Os ydych yn dymuno parhau i’ch bin(iau) gwastraff gwyrdd gael eu casglu gallwch dalu ar-lein yn www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd. Gellir talu hefyd drwy ffonio 01978 298989 / Cyfnewid Testun: 18001 01978 298989. Gallwch dalu am y gwasanaeth hwn o ddydd Llun, 17 Chwefror 2020 ymlaen.
Mae’r tâl yn £25 fesul bin gwastraff gardd ar gyfer 2020/2021.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
“Fedrai gadw fy min gwyrdd?”
Gallwch gadw eich bin gwyrdd ond bydd yn cael ei wagu o fis Ebrill yn unig os ydych wedi talu am y gwasanaeth. Os byddwch yn penderfynu nad ydych angen eich bin gwastraff gardd mwyach gallwch ofyn iddo gael ei symud ond os byddwch yn newid eich meddwl yn y dyfodol byddwch angen prynu bin gwastraff gardd newydd yn ogystal â thalu i’w wagu.
Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog yr Amgylchedd a Thechnegol: “Gobeithiwn y bydd y mwyafrif ohonoch yn parhau i ddefnyddio’r gwasanaeth er mwyn helpu Wrecsam i gyrraedd targed ailgylchu, compostio ac ailddefnyddio statudol Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2024/2025.”
Cofiwch y gallwch fynd â’ch gwastraff gardd i’r Canolfannau Ailgylchu Cartref sydd wedi’u lleoli yn Bryn Lane yn Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a Brymbo neu Plas Madoc. Rydym hefyd yn eich annog i gompostio gartref os oes gennych chi le.
Gweler yr erthygl flaenorol am daliadau bin gwyrdd:
https://newyddion.wrecsam.gov.uk/tal-am-finiau-gwyrdd-y-sefyllfa-ar-hyn-o-bryd/
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.