Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Groundwork i redeg Caffi Dyfroedd Alun
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle
50
Arbenigwyr gwelyau hynafol Wrecsam yn dathlu 50 mlynedd
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Groundwork i redeg Caffi Dyfroedd Alun
Pobl a lleY cyngor

Groundwork i redeg Caffi Dyfroedd Alun

Diweddarwyd diwethaf: 2019/02/14 at 4:00 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Cafe Cyfle
RHANNU

Mae gennym newyddion gwych am y caffi sy’n eiddo i’r cyngor ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun.

O Ebrill 1 bydd y caffi yn cael ei reoli ar ein rhan gan Groundwork Gogledd Cymru – sefydliad sy’n gweithio gyda nifer o bartneriaid a gwirfoddolwyr drwy gydol y rhanbarth i wella iechyd a lles ar draws Cymru.

O dan reolaeth Groundwork bydd y caffi yn cael ei enwi’n Caffi Cyfle.

YMGEISIO AM LE MEITHRIN AR GYFER MEDI 2019

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Efallai eich bod yn cofio ein bod yn ôl yn yr hydref wedi bod yn edrych ar nifer o opsiynau ar gyfer  gwasanaethau Dydd a Chyflogaeth ein Gwasanaethau Anableddau – amrediad o wahanol brosiectau busnes sy’n rhoi’r cyfle i bobl i gael hyfforddiant a chyflogaeth yn y gweithle.

Un o’r gwasanaethau dan ystyriaeth oedd y caffi yn Nyfroedd Alun lle mae oedolion gydag anableddau dysgu yn derbyn hyfforddiant a chyfleoedd gwaith.

“Yn falch iawn o’r newyddion hwn”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn falch iawn o allu cyhoeddi y bydd Groundwork Gogledd Cymru yn gyfrifol am reoli’r caffi yn Nyfroedd Alun ar ein rhan, gan barhau â’r gwaith rhagorol sydd eisoes wedi digwydd ac y bydd y caffi yn parhau i ddarparu gwasanaeth i’r gymuned a chyfleoedd ar gyfer y rhai sydd eu hangen.”

Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae’n newyddion rhagorol y bydd Groundwork Gogledd Cymru yn rhedeg y caffi yn Nyfroedd Alun.

“Mae wedi bod yn lle rhagorol ar gyfer unigolion gydag anawsterau dysgu i ddysgu sgiliau newydd ac mae wedi darparu cyfleoedd a gwaith iddynt a werthfawrogir yn fawr. Ac mae’r enw newydd, Caffi Cyfle yn ymgorffori’r ysbryd hwnnw.

“Mae Groundwork mewn sefyllfa dda iawn i barhau â’r gwaith hwnnw ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw unwaith y byddant yn dod yn gyfrifol am y caffi ddechrau mis Ebrill.”

Dywedodd Karen Balmer, Prif Weithredwr Groundwork Gogledd Cymru: “Bydd Caffi Cyfle yn parhau â’r gwaith da sydd eisoes wedi ei wneud gan y Cyngor i gefnogi’r gymuned leol ac fe fyddwn yn parhau i ddarparu, ac yn wir yn datblygu, yr amrediad o gyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth gynhwysol sydd ar gael drwy’r caffi.

“Rydym wedi rhoi bwydlen ynghyd sy’n adlewyrchu’r gorau o gynnyrch Cymreig wedi’i gymysgu gyda’n dawn ein hunain i gyffroi a phryfocio synnwyr blasu ein cwsmeriaid.  Rydym yn gobeithio y bydd yn arwain at ddilynwyr ffyddlon ymhlith y gymuned leol ac ymwelwyr â’r ardal, ar gyfer ymweld â’r parc ac fel cyrchfan ynddo’i hun.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22

YMGEISIWCH NAWR

Rhannu
Erthygl flaenorol Peidiwch â cholli'r noson comedi Cymraeg yn Nhŷ Pawb Peidiwch â cholli’r noson comedi Cymraeg yn Nhŷ Pawb
Erthygl nesaf Maen nhw’n ôl – ac yn ddigon o sioe! Maen nhw’n ôl – ac yn ddigon o sioe!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 1, 2025
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor Gorffennaf 1, 2025
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Mehefin 30, 2025
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Mehefin 30, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Food Waste Recycling Caddy
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn

Gorffennaf 1, 2025
Gwybodaeth
Y cyngor

Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu

Gorffennaf 1, 2025
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr

Mehefin 30, 2025
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?

Mehefin 30, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English