Yn ystod Pandemig Covid yn 2020, gwnaethom gaffael Grove House, hen eiddo fusnes Gwely a Brecwast, er mwyn sicrhau nad oedd pobl ddigartref yn ddiamddiffyn ac yn ynysig yn ystod y cyfnod clo. Cyrhaeddodd y gwestai cyntaf ym mis Ionawr 2021.
Ers hynny, mae wedi dod yn uned cefnogi 16 gwely llwyddiannus i breswylwyr, a chyda staff yno 24 awr y dydd 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae amryw asiantaethau cefnogi yn ymweld yn ddyddiol neu’n wythnosol, ac mae gan breswylwyr fynediad at gyrsiau i fagu hyder i ddod yn annibynnol a gofalu amdanynt eu hunain cyn symud ymlaen.
Mae Cymunedau am Waith yn mynychu hefyd i helpu i gefnogi pobl yn ôl i weithio.
Mae dros 240 o breswylwyr wedi symud yn llwyddiannus i lety parhaol neu lety a gefnogir i fodloni eu hangen tai hir dymor.
Mae Grove House yn gyfleuster parhaol bellach.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai “Mae Grove House wedi dangos bod rhoi’r wybodaeth, cyngor ac addysg gywir i’r rheiny, am amryw o resymau, sydd yn dod yn ddigartref yn allweddol i sicrhau cartref yn y dyfodol. “Mae’r eiddo yn gyfleuster parhaol bellach a heb amheuaeth bydd llawer mwy o ganlyniadau llwyddiannus. Mae’r staff yn gwneud gwaith gwych a hoffwn ddiolch iddynt am bopeth maent yn ei wneud i sicrhau trosglwyddiad esmwyth i lety parhaol a bywyd newydd i ffwrdd o ddigartrefedd.”
Maethu Cymru Wrecsam – dod yn ofalwr maeth
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i wneud cynnydd da yn Wrecsam