Fel yr ydych efallai’n ymwybodol, mae gennym lawer o ddigwyddiadau ar y gweill yn Wrecsam i nodi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yn gynharach yn ystod yr wythnos hon, bu i’r grŵp Lluoedd Arfog – sy’n cynrychioli a chefnogi aelodau’r lluoedd presennol a chyn-filwyr fel ei gilydd – gyfarfod i nodi dechrau cyfres o ddigwyddiadau canmlwyddiant a gaiff eu cynnal yn Wrecsam, ac i hyrwyddo’r llawlyfr cysylltiol sy’n rhestru’r digwyddiadau sydd ar y gweill ar draws y fwrdeistref sirol.
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Er mwyn gweld copi o’r llawlyfr, cliciwch ar y ddelwedd isod:
Dywedodd y Cyng. David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog ar gyfer Cyngor Wrecsam: “Mae’n gywir ac yn iawn ein bod ni’n cofio’r holl bobl o Wrecsam a fu’n gwasanaethu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac roedd bob aelod o grŵp y Lluoedd Arfog yn teimlo y dylid cyfarfod a chymryd rhan yn nigwyddiadau cofio’r canmlwyddiant.
“Ac, wrth gwrs, mae bob aelod o’r grŵp yn cynrychioli cymdeithasau a sefydliadau fydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y digwyddiadau i nodi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a gallant ledaenu’r neges am y digwyddiadau sydd ar y gweill ymysg y sefydliadau priodol.”
Ariennir y llawlyfr a nifer o’r digwyddiadau gan Gronfa’r Ymddiriedolaeth y Cyfamod.
Yn ogystal â hynny, cyfarfu’r grŵp i hyrwyddo Ymgyrch Diolch y Lleng Brydeinig Frenhinol sy’n annog aelodau o’r cyhoedd i fynegi eu diolch i’r rheiny a frwydrodd yn y Rhyfel drwy ddysgu am y genhedlaeth a oedd yn fyw yn y cyfnod.
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU