Efallai y byddwch wedi clywed cyhoeddiadau diweddar am ein Cynllun Treftadaeth Treflun, a fydd yn adfywio nifer o adeiladau hanesyddol yng nghanol tref Wrecsam.
Ac efallai y byddwch hefyd wedi clywed am ei gynllun-partner, y rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol, sy’n anelu i hyfforddi gweithlu medrus sy’n gallu gwneud gwaith yn y sector sgiliau adeiladu traddodiadol (cyn-1919).
Rydym eisoes wedi cynnal rhai digwyddiadau hyfforddiant wedi eu hanelu at bobl broffesiynol a’r rhai sydd eisoes yn gweithio ym maes treftadaeth neu adeiladu. A nawr mae gennym ddigwyddiad arall wedi ei anelu at gael pobl ifanc i’r un maes.
Ar 24 Ionawr, cynhaliwyd diwrnod hyfforddiant yng Nghampws Bersham Campus Coleg Cambria ac ymunodd rhai o’n partneriaid sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Treftadaeth Treflun a’r rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol.
Rhoddodd y diwrnod y cyfle i:
- gael taith o amgylch y campws
- siarad gyda thiwtoriaid adeiladu
- deall yr angen am sgiliau mewn adeiladu treftadaeth
- mynychu sgyrsiau i archwilio’r pwnc yn fwy manwl
- mynediad i waith posibl a lleoliadau ysgol drwy Gynllun Treftadaeth Treflun Wrecsam.
Dywedodd y Cyng. Terry Evans, Aelod Arweiniol Perfformiad Economaidd ac Adfywio: ‘Mae llawer o waith cyffrous wedi ei gynllunio yn Wrecsam trwy’r Cynllun Treftadaeth Treflun, a gyda’r rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol cysylltiol, mae hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc yn Wrecsam sydd â diddordeb yn y crefftau traddodiadol.
‘Bydd cyflogwyr bob amser yn edrych am y rhai sydd â sgiliau ychwanegol, a nod digwyddiadau fel y rhain yw dangos i bobl ifanc sut gallant gael hyfforddiant yn y sgiliau mwy arbenigol sydd eu hangen gan gyflogwyr yn y sector adeiladu treftadaeth.
‘I bobl ifanc sy’n ystyried crefft megis gosod brics neu waith coed, ond heb feddwl eto ynglŷn â ble maent eisiau arbenigo, bydd hwn yn gyfle ardderchog iddynt edrych ar y maes ehangach o sgiliau sydd ar gael.’