Gwahoddir pobl ifanc greadigol sy’n byw yn Wrecsam i noson o lenyddiaeth, cerddoriaeth a chelf, a fydd yn rhoi cyfle iddynt ddangos eu doniau.
Bydd ‘Wrexpression’ yn dangos rhywfaint o gynnyrch artistiaid, cerddorion, ffotograffwyr ac ysgrifenwyr ifanc creadigol sy’n byw yn Wrecsam.
Wedi’i anelu at bobl ifanc rhwng 13 a 20 oed, cynhelir y digwyddiad yn Maesgwyn Hall, Ffordd yr Wyddgrug, rhwng 6pm a 9pm, ddydd Iau 8 Chwefror.
Bydd y cerddorion Luke Gallagher, Verbatim ac Off Topic yn perfformio ar y noson, a chaiff gwaith artistiaid, ffotograffwyr ac ysgrifenwyr ei arddangos hefyd.
Mae’r digwyddiad am ddim, ond mae’n rhaid cadw llygad ar niferoedd – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cael tocyn ymlaen llaw.
Ni fydd rhaid i chi dalu unrhyw beth – dangoswch eich tocyn wrth y drws ar y noson.
Ni chaniateir alcohol yn y digwyddiad, bydd diodydd meddal a lluniaeth ar gael.
Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu a’i ariannu ar y cyd gan Fixers – sefydliad sy’n helpu pobl ifanc i fynd i’r afael â materion o ddydd i ddydd – Senedd yr Ifanc Wrecsam a Chyngor Wrecsam.
“Bydd pobl ifanc yn cael cyfle i fynegi eu gwir hunaniaeth”
Meddai Toby Jones, Cadeirydd Senedd yr Ifanc: “Rydym am i bobl ifanc ddod at ei gilydd, creu cymuned gref a rhoi cyfle i bobl ifanc Wrecsam fynegi eu gwir hunaniaeth.”
Meddai Sian Rendell, Cydlynydd Prosiect Fixers: “Mae’r digwyddiad hwn wedi’i greu fel platfform i bobl ifanc ddod at ei gilydd, rhannu eu profiadau ac archwilio syniadau i sut y gellir defnyddio lleisiau pobl ifanc i greu newid cadarnhaol ar gyfer eraill.
“Mae gweithio gyda grŵp mor ymroddgar a brwdfrydig o Senedd yr Ifanc wedi bod yn wych ac edrychwn ymlaen at fod yn rhan o Wrexpression!”
Dywedodd y Cynghorydd Paul Rogers, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi: “Bydd hwn yn ddigwyddiad gwych ar gyfer pobl ifanc yn Wrecsam, a gobeithio mai’r cyntaf o nifer ydyw.”
I gael tocyn, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at youngvoices@wrexham.gov.uk; ffonio’r Tîm Cyfranogi ar 01978 317961; galw heibio i Ganolfan Pobl Ifanc Y Vic yng nghanol y dref, neu gysylltu â Senedd yr Ifanc ar Facebook (Senedd yr Ifanc) neu Twitter (@WrexhamSenedd)
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT