Mae Adeiladau’r Goron a adnewyddwyd ar Stryt Caer, Wrecsam, wedi ennill Gwobr Ystadau Cymru. Mae’r gwobrau Ystadau Cymru blynyddol yn ddathliad o reoli asedau ar y cyd yn llwyddiannus ar draws sector cyhoeddus Cymru.
Mae’r cynllun wedi ennill y wobr yn benodol ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol y prosiect yn ogystal â bod yn enillwyr cyffredinol, hefyd!
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Roedd adnewyddu Adeiladau’r Goron yn brosiect dylunio ac adeiladu 2 gam ar gyfer adnewyddu ac ymestyn adeilad 1960au 4 llawr y cyngor. Mae bellach yn le ar gyfer holl staff gofal cymdeithasol ac addysg, yn darparu gwasanaethau plant ac oedolion di-dor trwy greu Canolbwynt Lles newydd ar lawr gwaelod yr adeilad.
Cwblhawyd y prosiect ar amser ac o fewn y gyllideb. Mae wedi gwella perfformiad ynni’r adeiladau yn sylweddol o EPC D i EPC A, sy’n helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng carbon wrth ymestyn oes y strwythur dros 50 mlynedd ychwanegol a hefyd gwneud y mwyaf o’r cyflenwad o ynni adnewyddadwy
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Mark Pritchard: “Mae prosiect Adeiladau’r Goron yn sefyll allan yn ein hymrwymiad i’n dyhead Net Sero – gan drosglwyddo cyfleuster 1960au aneffeithlon sydd wedi dyddio i swyddfa fodern. Mae’r gwaith adnewyddu wedi helpu i ostwng y galw am wres 66% a gostyngiad pellach o 25% yn y galw am ynni o’r gosodiadau trydanol. Hoffwn ddiolch i’n dylunwyr, contractwyr a phartneriaid, mae’n brosiect gwych, ac yn un rydym yn falch iawn ohono fel cyngor. Hoffwn hefyd ddiolch i’r holl Swyddogion a fu’n ymwneud â’r prosiect o’r cychwyn”
Dywedodd llefarydd o Alex Read Construction: “Mae Read yn falch iawn o fod yn rhan o’r Cynllun Adeiladau’r Goron sy’n dangos gwir ymdrech tîm, yn canolbwyntio ar ddatgarboneiddio un o brif asedau cyfredol Wrecsam. Gyda dwy ran o dair o asedau a fydd wedi eu hadeiladu yn 2030 yn bodoli heddiw, mynd i’r afael â’r argyfwng carbon trwy ailosod / adnewyddu yw’r her fwyaf mae’r diwydiant yn ei wynebu wrth gyrraedd Sero Net. Wedi wynebu’r her, rydym yn falch o gefnogi Wrecsam i ddechrau ymdrin â’r her a rhannu eu profiadau er budd rheolwyr portffolio eraill.”
Mae’r Canolbwynt Lles, ar lawr gwaelod yr adeilad yn darparu gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, trydydd sector a chymunedol integredig; gan wella mynediad at wybodaeth a chyngor a darparu atebion ataliol ac amgen i ofal a chymorth mewn amgylchedd diogel, gyda chyfleusterau hygyrch ar gyfer bob oedran a gallu. I gael mwy o wybodaeth am y Canolbwynt Lles ewch i webfan