Yn dilyn llwyddiant gwaith adnewyddu Tir y Capel, mae gwaith yn mynd rhagddo yn Llys y Mynydd, Rhos – sef yr ail gynllun tai gwarchod i gael ei ailfodelu a’i adnewyddu gan Gyngor Wrecsam.
Tir y Capel oedd y llety tai gwarchod cyntaf i gael ei adnewyddu ac mae bellach yn llawn tenantiaid sydd yn mwynhau eu cartref newydd.
Mae gwaith adnewyddu Llys y Mynydd ar y trywydd i gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Tachwedd.
Mae’r gwaith yn cynnwys gwella maint a hygyrchedd y rhandai drwy gynnwys baeau sydd â chladin ymyl metel ac ailfodelu 3 rhandy bach, i greu 2 o rai mwy.
Fe fydd gan yr eiddo ffenestri triphlyg mawr, insiwleiddiad yn y waliau mewnol a phympiau gwres yr awyr.
Mae’r Cyngor mewn cyswllt rheolaidd gyda thenantiaid a symudodd o Lys y Mynydd yn wreiddiol, ac maent yn edrych ymlaen at symud i’w cartrefi a fydd wedi’u hadnewyddu, yn gynnar ym mis Ionawr gobeithio.
Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol Tai: “Mae tai gwarchod yn chwarae rôl bwysig yn ein cymunedau, gan ddarparu cartrefi diogel a chyfforddus i breswylwyr hŷn a thenantiaid eraill sydd angen ychydig bach o gefnogaeth. Mae hi’n newyddion da iawn bod Llys y Mynydd bron â chael ei gwblhau. Mae’r prosiect hwn wedi’i ailddatblygu fel rhan o raglen gyfalaf eleni a bydd yn caniatáu i ddeiliaid contract i fyw mewn llety gwarchod cyfoes.
“Rydym ni wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein stoc tai gwarchod, a bydd y gwaith adnewyddu yn Llys y Mynydd a Thir y Capel yn darparu cartrefi cynnes, cyfforddus ac effeithlon o ran ynni.”