Fyddwch chi’n defnyddio Ffordd Caer i fynd i mewn i Wrecsam?
Os felly, dyma rybudd y disgwylir peth aflonyddwch ac oedi ar y ffordd hon yn sgil gwaith ail-wynebu sydd ar fin digwydd yno.
O ddydd Llun, Chwefror 12, bydd Tîm Priffyrdd Cyngor Sir Wrecsam yn gwneud gwaith ail-wynebu ar y gylchfan sy’n cysylltu Ffordd Caer, Price’s Lane, Lon Rhosnesni a Cilcen Grove.
Disgwylir y bydd y gwaith yn para saith niwrnod a phenderfynwyd ei wneud yn ystod y gwyliau hanner tymor er mwyn osgoi tarfu ar draffig ysgolion.
Bydd rheolaeth traffig dwy ffordd ar Ffordd Caer yn ystod y gwaith, felly disgwylir oedi.
Bydd gwyriadau yn eu lle ar gyfer mynediad i Price’s Lane a Lon Rhosnesni.
Rydym hefyd eisiau sicrhau na fydd sŵn y gwaith yn amharu ar drigolion yr ardal gyfagos felly bydd y gwaith yn darfod am 7pm bob nos.
Bydd cerddwyr yn gallu defnyddio Ffordd Caer fel arfer yn ystod y gwaith.
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae gwir angen ail-wynebu’r gylchfan – ond rydym yn ymwybodol fod hon yn un o’r prif ffyrdd i mewn i ganol y dref ac rydym yn gobeithio cadw unrhyw aflonyddwch y bydd y gwaith hwn yn ei achosi i’r isafswm.”
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT