Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwaith ar gyfleusterau newydd “gwych” y Byd Dŵr wedi ei orffen
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gwaith ar gyfleusterau newydd “gwych” y Byd Dŵr wedi ei orffen
Pobl a lleY cyngor

Gwaith ar gyfleusterau newydd “gwych” y Byd Dŵr wedi ei orffen

Diweddarwyd diwethaf: Medi 20, 2017 3:43 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Gwaith ar gyfleusterau newydd “gwych” y Byd Dŵr wedi ei orffen
RHANNU

Mae’r gwelliannau hirddisgwyliedig i gyfleuster hamdden a gweithgareddau canol y dref bellach wedi eu cwblhau – ac fe wahoddir y cyhoedd i ddefnyddio’r cyfleusterau newydd y penwythnos hwn.

Ar ôl pum mis o waith cyfalaf yn y Byd Dŵr yn Wrecsam, mae’r cyfleusterau newydd bellach yn barod.

Mae’r hen fynedfa bellach yn rhan o stiwdio beicio dan do MYRIDE gyda meddalwedd beicio rhith sy’n cynnwys golygfeydd godidog ac yn rhoi profiad beicio arbennig ar gyfer unigolion a grwpiau.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Bydd ymwelwyr i’r Ganolfan Hamdden a Gweithgareddau yn camu i mewn i fynedfa newydd, gydag eisteddle a chaffi sy’n gwerthu Costa Coffee.

Bydd y gampfa ar ei newydd gwedd, gydag offer Omnia Gym newydd, yn rhoi cyfle i’r aelodau fonitro eu cynnydd drwy’r system Technogym Wellness Cloud, sy’n olrhain eu hymarferion ar ffon USB ac ap cysylltiedig y mae modd eu defnyddio’r gyda’r offer.

Mae ystafelloedd newid y merched ar y llawr gwaelod hefyd wedi eu hailwampio a’u moderneiddio, gyda loceri newydd a man eistedd.

Bydd penwythnos agored yn cael ei gynnal i’r cyhoedd ddiwedd yr wythnos hon (dydd Sadwrn 23 a dydd Sul 24 Medi), a fydd yn rhoi cyfle i bobl weld a defnyddio’r cyfleusterau newydd yn rhad ac am ddim.

Bydd agoriad swyddogol y cyfleusterau newydd yn cael ei gynnal fis Hydref.

Ddiwedd y gwanwyn lluniodd y Cyngor gontract gyda Freedom Leisure a oedd yn rhoi rheolaeth pedair canolfan hamdden a gweithgareddau a phum cyfleuster chwaraeon defnydd deuol yng ngofal y cwmni hamdden.

Mae’r gwelliannau yn y Byd Dŵr yn rhan o’r buddsoddiad gwerth £2.7 miliwn a wnaethpwyd gan Gyngor Wrecsam a Freedom Leisure i’r pedwar cyfleuster hamdden a’r caeau 3G newydd yn y fwrdeistref sirol.

“Mae’r cyfleusterau yn wych”

Dywedodd y Cyng. Paul Rogers, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth Dlodi, sydd hefyd â chyfrifoldeb dros hamdden: “Mae’r cyfleusterau newydd yn wych, ac roeddwn i’n ddigon ffodus o gael cyfle i fynd o amgylch y cyfleusterau newydd ar lawr gwaelod y Byd Dŵr.

“Ers derbyn swydd Aelod Arweiniol rwyf wedi talu sylw manwl i’r gwaith cyfalaf ac rwyf wastad wedi dweud bod cynnydd y gwaith wedi bod yn ardderchog. Mae’n rhaid i mi ddweud, mae’r llawr gwaelod, yn enwedig y caffi a’r eisteddle newydd, yn edrych yn hollol wahanol ac wedi newid yn sylweddol ers dechrau’r gwaith.

“Rwyf yn falch iawn bod y gwaith wedi ei orffen ac rwyf yn gobeithio y bydd y cyhoedd yn manteisio ar y cyfle i fynychu penwythnos agored y Byd Dŵr.”

Dywedodd Andy Harris, Rheolwr Ardal Freedom Leisure: “Mae’r gwaith i wella ein pedair canolfan hamdden a gweithgareddau wedi bod ar y gweill ers cryn amser bellach, ac felly mae’n braf gweld bod y gwaith yn tynnu at y terfyn, gyda’r rhan fwyaf o’r gwaith wedi ei orffen yn barod.

“Yn bwysicach fyth, mae defnyddwyr eisoes wedi rhoi gwybod i ni pa mor hapus ydyn nhw gyda’r cyfleusterau a’r cynigion newydd – ac mae’n braf iawn clywed hynny.

“Wedi’r cwbl, prif nod y gwaith oedd darparu’r cyfleusterau gorau posibl i gwsmeriaid a denu cwsmeriaid newydd. Ynghyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mae arnom ni eisiau galluogi mwy o bobl yn Wrecsam i fynd allan a chadw’n heini yn amlach.”

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Llun: Y Cynghorydd Paul Rogers gyda Richard Milne, Rheolwr Waterworld

Rhannu
Erthygl flaenorol Ffyrdd hawdd i osgoi gofid ar eich gwyliau Ffyrdd hawdd i osgoi gofid ar eich gwyliau
Erthygl nesaf Ydych chi wedi bod yn pendroni erioed beth mae bod yn gynghorydd yn ei olygu? Dysgwch fwy yma Ydych chi wedi bod yn pendroni erioed beth mae bod yn gynghorydd yn ei olygu? Dysgwch fwy yma

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Pobl a lle

Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English