Llun: Y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol gyda chyfrifoldedb dros Hamdden, a hyfforddwr Clwb Gymnasteg Olympus Paul Edwards.
Fel y gwelsom ni drwy lwyddiant athletwyr Cymru – yn gynnwys pherfformiad tîm hoci merched Cymru – mae gan Gymru dîm o’r safon uchaf yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 ar Arfordir Aur Awstralia.
Ond nid athletwyr o Gymru’n unig sy’n cael llwyddiant rhyngwladol yn y gemau eleni.
Diolch i ddau o enwogion chwaraeon o Wrecsam, bydd cynrychiolaeth o Gymru ymysg y rhai sy’n beirniadu hefyd.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.
Mae Paul Edwards, Prif Hyfforddwr a Chyfarwyddwr Clwb Gymnasteg Olympus, Llai, yn un o ddau feirniad o Gymru fydd yng Ngemau’r Gymanwlad eleni.
Bydd yn barnu cystadleuaeth Freiniol Artistig y Dynion, ac yn Brif Feirniad ar gyfer cystadleuaeth Llawr a Llofnaid y Dynion.
Bydd Jan Davies, sydd hefyd o Wrecsam, yn barnu’r gystadleuaeth Freiniol gyda Paul.
“Braint ac anrhydedd cael cynrychioli Cymru”
Dywedodd Paul: “Mae’n fraint ac anrhydedd cael cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur, yn enwedig ar ôl cael fy enwebu gan Gymnasteg Cymru a Gymnasteg Prydain, ac mae fy swydd fel Prif Feirniad ar gystadleuaeth Llawr a Llofnaid y Dynion wedi’i chymeradwyo gan y Ffederasiwn Gymnasteg Rhyngwladol.
“Rwy’n gobeithio y bydd nifer o’r beirniaid iau yn fy ngweld i yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2018 ac y galla’ i eu hysbrydoli i fod yn fy sefyllfa i yn y dyfodol.”
“Ffodus o gael hyfforddwyr o safon mor uchel yn ein hardal”
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Fe wnes i gyfarfod Paul a’r tîm yng Ngwobrau Chwaraeon diweddar Wrecsam ac roeddwn i’n awyddus iawn i fanteisio ar y cyfle i ymweld â’r clwb yn Llai.
“Mae eu brwdfrydedd dros y gamp a thros helpu pobl ifanc i gyrraedd eu nod yn lleol yn arbennig. Rydyn ni wir yn ffodus o gael hyfforddwyr o safon mor uchel yn ein hardal.
“Rydw i’n dymuno pob hwyl i Paul a Jan yn Awstralia – mae’n anhygoel bod y ddau feirniad o Gymru ar gyfer cystadleuaeth Freiniol Artistig y Dynion yn dod o Wrecsam.”
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU