Bydd gwaith i wella’r seilwaith gwefru cerbydau trydan yn Wrecsam yn dechrau yr wythnos hon, gan arwain at rywfaint o waith ffordd a mân wyriadau traffig.
Mae ceblau i gysylltu pwyntiau gwefru cerbydau trydan â’r cyflenwad trydan yn cael eu gosod yng nghyffiniau meysydd parcio sy’n cael eu rhedeg gan y cyngor yn Stryd y Farchnad, Tŷ Pawb ac Adeiladau’r Goron, yn ogystal â than y ffordd ar Stryd y Farchnad a Stryd Holt.
Mae’r gwaith yn cael ei wneud gan SP Energy Networks a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn 5 Chwefror.
Mae’r gwaith yn rhan o raglen barhaus i gynyddu darpariaeth pwyntiau gwefru cerbydau trydan dibynadwy ac o ansawdd uchel ar draws y sir, sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru.
Mae Cyngor Wrecsam yn gweithio gyda’r partneriaid, Costelloes, i gynyddu’r rhwydwaith o bwyntiau gwefru sydd ar gael i’r cyhoedd, sy’n cynnwys rhai gwefrwyr cyflymder uwch ym maes parcio Stryd y Farchnad yng nghanol y ddinas.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Hyrwyddwr Hinsawdd Cyngor Wrecsam: “Bydd gwaith ffordd a rhai mân wyriadau, ond dylai’r gwaith gosod fod wedi’i gwblhau erbyn dechrau mis Chwefror a bydd yn arwain at fwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ar draws canol y ddinas.
“Mae ceir trydan yn lanach ac yn wyrddach na cherbydau petrol a diesel, ac rydym eisiau annog eu defnydd yn y ddinas – ynghyd â cherdded, beicio a dulliau gwyrdd eraill o deithio.
“Mae cerbydau trydan yn dod yn fwy cyffredin, felly mae’n bwysig bod Wrecsam yn cadw i fyny ac yn darparu mwy o gyfleusterau gwefru
“Hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd wrth i’r gwaith fynd rhagddo.”