Os ydych chi wedi bod drwy ganol y dref yn ddiweddar –yn enwedig hyd at gornel Stryt yr Hôb a Stryt y Frenhines – mae’n debyg eich bod wedi gweld gwaith gwella canol y dref.
Mae dipyn o waith wedi’i gynllunio, a dim ond cam cyntaf buddsoddiad o £420,000 yw hyn i wella palmentydd a dodrefn stryd canol y dref.
Rydym yn gweithio gyda’r contractwyr DAWNUS, ac mae gwaith y palmentydd ar y trywydd cywir i’w gorffen yn yr hydref.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Rydym newydd ddechrau gosod borderi o gerrig gwenithfaen du y tu allan i rai siopau.
Mae ein swyddogion a’n contractwyr hefyd yn sicrhau nad yw’r gwaith yn cael effaith andwyol ar siopau, bydd diogelwch a mynediad i gerddwyr yn cael blaenoriaeth bob amser, ac mae’n bwysig nodi bod siopau sy’n agos at y gwaith yn parhau i fod ar agor.
“Rydym eisiau achosi cyn lleied o aflonyddwch â phosibl”.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Er y bydd y gwaith hyn yn welliant sylweddol i ymddangosiad canol y dref, rydym hefyd eisiau sicrhau cyn lleied o aflonyddwch â phosibl i ymwelwyr a siopau a busnesau cyfagos.
“Byddwn yn ymgysylltu â nhw drwy gydol y gwaith i sicrhau y gallwn leihau’r effaith ar eu gwaith o ddydd i ddydd.”
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION