Ddydd Sul yma bydd Gwasanaeth Dinesig blynyddol y Maer yn cael ei gynnal yn Eglwys hardd San Silyn yn Wrecsam.
Mae’r Cynghorydd Tina Mannering, a ddechreuodd yn ddiweddar fel Maer Wrecsam, yn edrych ymlaen at groesawu pobl i’r digwyddiad y penwythnos hwn, fydd yn cael ei oruchwylio gan y Parchedig Petra Goodband.
Bydd pobl bwysig a gwesteion y Maer yn bresennol, ac estynnir gwahoddiad cynnes hefyd i aelodau’r cyhoedd.
Bydd y gwasanaeth yn dechrau am 11am.
Dywedodd y Maer: “Mae’n anrhydedd gwasanaethu fel Maer Wrecsam ac er mai dim ond ychydig wythnosau yr ydw i wedi bod yn y rôl, rydw i wedi bod yn hynod brysur yn cwrdd â phobl a chynrychioli’r ddinas. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y gwasanaeth yn San Silyn ddydd Sul, a bydd yn hyfryd gweld pawb.”