Mae Cyngor Ar Bopeth wedi datblygu gwasanaeth newydd i godi ymwybyddiaeth am sgamiau ar lein ac i helpu pobl sydd wedi dioddef yn eu sgil.
Lansiwyd y gwasanaeth ‘Scams Action’ y mis diwethaf, ac mae Cyngor Ar Bopeth eisiau i chi gysylltu â nhw…
• os ydych chi’n meddwl y gallech chi fod wedi dod ar draws sgam ar lein
• os ydych chi wedi cael eich twyllo ar lein
• os ydych chi eisiau adrodd am sgam ar lein
• os ydych chi’n ymddwyn ar ran rhywun sydd wedi cael eu twyllo ar lein
Yn unrhyw un o’r sefyllfaoedd hyn, gallant eich cynghori a chynnig cymorth i chi.
Gallwch gysylltu â ‘Scams Action’ drwy ffonio 0300 330 3003, neu gallwch siarad â nhw drwy sgwrs ar-lein os byddai hynny’n well gennych chi.
Mae yna adran newydd ar eu gwefan i’ch helpu chi i wirio a yw rhywbeth yn sgam ai peidio.
Gallwch adrodd am sgam ar y dudalen ‘Scams Action’, ond fe’ch cynghorir chi i ddarllen hwn cyn gwneud hynny.
Mae ‘Scams Action’ ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm, ond ar gau ar wyliau banc.
Cadwch yn ddiogel rhag twyllwyr gyda’n rhybuddion!
Cofrestrwch i gael rhybuddion am sgamiau yma!