Mae Cyngor Wrecsam yn parhau i wneud gwelliannau i wasanaethau cymdeithasol, yn ôl adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Cynhaliodd AGC asesiad wedi’i drefnu o ofal cymdeithasol i oedolion a phlant yn ôl ym mis Hydref.
Y nod oedd adolygu perfformiad, gyda’r arolygwyr yn tynnu sylw at gynnydd da mewn nifer o feysydd allweddol, yn cynnwys:
Gofal cymdeithasol i blant
- Gwelliannau i sut mae’r cyngor yn gwrando ar farn plant ac yn ei gofnodi.
- Sicrhau bod atal ac ymyrraeth gynnar wrth wraidd gwasanaethau plant.
- Sicrhau bod asesiadau’n cynnwys pob maes allweddol.
- Sicrhau bod digon o weithwyr cymwys mewn rolau allweddol.
Gofal cymdeithasol i oedolion
- Bodloni anghenion gofalwyr a sicrhau bod asesiadau yn cael eu cynnig.
- Cryfhau goruchwyliaeth a throsolwg gan reolwyr.
- Darparu gwybodaeth, cyngor ac asesiad i unigolion.
- Sicrhau bod asesiadau’n cael eu cynnal yn brydlon a’u bod yn gynhwysfawr.
Yn eu hadroddiad, mae’r arolygwyr yn galw ar y cyngor i barhau i ganolbwyntio eu hegni ar y meysydd hyn, fel eu bod yn gallu atgyfnerthu ac adeiladu ar eu gwaith hyd yma.
Meddai’r Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant:
“Mae’r arolygwyr yn cydnabod y cynnydd yr ydym yn parhau i’w wneud, sy’n galonogol iawn.
“Mae gofal cymdeithasol yn rhywbeth nad yw’r rhan fwyaf ohonom yn ei brofi yn ein bywydau o ddydd i ddydd, ond i blant a theuluoedd sy’n dibynnu ar ein gwasanaethau, mae’n hynod bwysig.
“Mae hwn yn adroddiad cadarnhaol iawn, ond mae gennym dal llawer o waith i’w wneud ac ni allwn orffwys ar ein bri. Byddwn yn parhau i symud ymlaen.”
Meddai’r Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion:
“Mae gennym gymaint o bobl ymroddedig ac ymrwymedig yn gweithio yn ein timau gofal cymdeithasol, ac maent yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gymaint o fywydau.
“Mae’r adroddiad gan AGC yn tynnu sylw at sawl maes o arfer da, sy’n newyddion gwych ac yn rhoi hyder i ni wrth symud ymlaen.
“Mae’n adlewyrchiad cadarnhaol o waith y gweithwyr a’r cynghorwyr, ac mae’n cynnig arweiniad adeiladol ar le y dylem barhau i ganolbwyntio ein hymdrechion arno yn y flwyddyn i ddod.”
Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor:
“Mae adroddiad AGC yn cydnabod ein hymrwymiad i wasanaethau cymdeithasol, a hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r gwaith – gan gynnwys y prif swyddog, Cynghorwyr sydd wedi cefnogi ein cyllideb yn y blynyddoedd diweddar i ddarparu buddsoddiad, a’n staff sy’n gweithio’n ddiflino ar draws ein timau gwasanaethau cymdeithasol.
“Mae gwelliannau i’w gwneud o hyd ac ni fyddwn yn gorffwys ar ein bri, ond rydym wedi gwneud cynnydd mawr ac wedi dangos ein bod yn ymrwymedig i helpu i ddiogelu’r bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau.”