Erthygl gwadd – Ymddiriedolaeth Gymunedol a Diwylliannol Wrecsam
Mae Ymddiriedolaeth Gymunedol a Diwylliannol Wrecsam, y sefydliad sy’n arwain ymgyrch Wrecsam2029 ar gyfer Wrecsam i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029, wedi penodi Dirty Protest Theatre, sydd wedi’i leoli yn Wrecsam, i gyflwyno rhaglen o weithdai ymgysylltu creadigol arloesol a chynhwysol ledled y sir ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Bydd y rhaglen hon, dan arweiniad artistiaid lleol, yn dod â chroestoriad eang o gymunedau Wrecsam ynghyd, gan gynnig cyfleoedd chwareus, dychmygus a hygyrch i drigolion archwilio mynegiant creadigol, dathlu hunaniaeth ddiwylliannol y sir, a helpu i lunio gweledigaeth gyffredin ar gyfer dyfodol diwylliannol Wrecsam. Bydd y gweithdai’n gweithredu fel fforymau croesawgar lle gall cymunedau rannu, cyd-ddylunio a dylanwadu’n ddilys ar syniadau allweddol ar gyfer rhaglen Wrecsam2029, gan sicrhau bod y cais wedi’i wreiddio’n gadarn ym mhrofiadau byw a dyheadau pobl leol.
Gan dynnu ar berfformiad, sain, symudiad, crefft, adrodd straeon ac arfer creadigol amlieithog, bydd y sesiynau’n gynhwysol, yn rhyng-genhedlaethol ac yn ymatebol, wedi’u cynllunio mewn cydweithrediad ag artistiaid, sefydliadau diwylliannol a chanolfannau cymunedol sydd wedi’u lleoli yn Wrecsam. Bydd gweithdai’n cael eu cynnal ledled y fwrdeistref sirol rhwng nawr a mis Chwefror 2026, gan sicrhau cyfranogiad a chynrychiolaeth eang o gymunedau â hunaniaethau, ieithoedd a phrofiadau amrywiol.
“Mae Wrecsam erioed wedi bod yn sir o wneuthurwyr, symudwyr a breuddwydwyr, ac rydym yn falch o adeiladu ar y digwyddiadau creadigol sydd wedi rhoi celfyddydau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol wrth wraidd ein cymuned. Gan weithio gyda Wrecsam2029, rydym yn camu i mewn gyda chwilfrydedd, chwaraeusrwydd a chred frwd yn nychymyg y bobl sy’n byw yma. Ochr yn ochr â chriw o artistiaid lleol gwych sy’n anadlu ac yn ysbrydoli diwylliant ledled y sir, rydym yn creu mannau llawen lle mae syniadau’n sbarduno a dyfodol Wrecsam yn cael ei lunio gan y lleisiau sy’n ei adnabod orau.” – Natasha Borton, artist lleol a Catherine Paskell, Cyfarwyddwr Artistig, Dirty Protest Theatre.
Dewiswyd Dirty Protest Theatre – y cwmni Cymreig arobryn o Wrecsam sy’n adnabyddus am ei ddull arloesol, cymunedol o greu theatr ledled Cymru ac yn rhyngwladol – yn dilyn proses dendro ffurfiol a aseswyd yn erbyn y briff comisiwn gwreiddiol. Bydd ymddiriedolwyr a staff YGDW yn parhau i fonitro a chefnogi’r rhaglen, gan sicrhau ei bod yn cyd-fynd ag amcanion yr Ymddiriedolaeth ac yn cyfrannu’n ystyrlon at ddatblygu strategaeth ddiwylliannol hirdymor ar gyfer y rhanbarth.
Ar ddiwedd rhaglen y gweithdai, bydd YGDW a Dirty Protest Theatre yn cynnal digwyddiad rhannu creadigol cyhoeddus i arddangos y syniadau, y gweithiau celf, y perfformiadau a’r lleisiau sy’n dod i’r amlwg o’r sesiynau. Bydd Dirty Protest Theatre hefyd yn cyflwyno set fanwl o ganfyddiadau i YGDW, gan ddarparu mewnwelediadau allweddol i helpu i arwain cais Wrecsam2029 a llywio rhaglenni diwylliannol yn y dyfodol ledled y sir.
Dywedodd Morgan Thomas, Cydlynydd Cais Diwylliant Wrecsam2029:
“Mae cais Wrecsam i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029 wedi’i wreiddio yn y bobl sy’n galw’r lle hwn yn gartref. Mae’r gweithdai hyn yn sicrhau nad yn unig y clywir lleisiau dilys ac amrywiol Wrecsam ond eu bod yn cael eu rhoi wrth wraidd y cais a’n dyfodol diwylliannol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fynychu’r sesiynau fy hun a gweld cymunedau’n cysylltu â phrosiect mor gyffrous a dychmygus. Diolch yn fawr iawn i Dirty Protest Theatre am gyflwyno gweledigaeth mor gynhwysol, greadigol ac ysbrydoledig ar gyfer ymgysylltu â chymunedau Wrecsam.”
Ymunwch
Mae’r gweithdai cyntaf wedi cael eu cyhoeddi ac mae YGDW yn annog trigolion o bob cefndir, oedran a chymuned i gymryd rhan.
Cyhoeddir mwy o weithdai, sgyrsiau a digwyddiadau galw heibio yn yr wythnosau nesaf.
Gweithdai ar y Gweill
Gweithdy 1
Dyddiad: Dydd Mercher 3ydd Rhagfyr
Venue: Homegrown, 51 Peris (Yr Hen Syrjeri GP), Plas Madoc, LL14 3LE
Amser: Galw heibio rhwng 9yb-12yh
Sut i gadw lle: Troi fyny yn Homegrown ar gyfer a sesiwn Crefft a Phaned (ddim angen archebu lle)
Disgrifiad:
Cyfle agored i drigolion Plas Madoc gael paned a sgwrs am yr hyn yr hoffent ei weld gan Wrecsam2029, a beth mae diwylliant yn Wrecsam yn ei olygu iddyn nhw.
Gweithdy 2
Dyddiad: Dydd Gwener 12fed Rhagfyr
Lleoliad: Prosiect Mwynwyr Wrecsam,3 Ffordd Maesgwyn, Wrecsam LL11 2AP
Amser: 11yb–2yh, gyda taith ddwyieithog o Orsaf Achub Wrecsam am 10yb
Sut i gadw lle: Ar agor i’r cyhoedd. Dewch ar y diwrnod.
Disgrifiad:
Ymunwch â’r artistiaid lleol Andy Hickie, Sophia Leadill a Ben Wilson am weithdy yn dathlu ysbryd creadigol Wrecsam. Mwynhewch gerddoriaeth leol, adrodd straeon drwy fwyd, a chrefftau wedi’u hysbrydoli gan y Fari Lwyd wrth gwrdd â’r tîm artistiaid sy’n llunio sgyrsiau ar draws y rhaglen. Gofod llawen, dychmygus i gysylltu, creu a helpu i lunio naratif Wrecsam2029. Yn ogystal â bod ar agor i unrhyw un, bydd y sesiwn hon yn hygyrch i bobl ddall a phobl â nam ar eu golwg, drwy ddisgrifiad sain am ddim a chymorth taith gyffwrdd.
Gweithdy 3
Dyddiad: Dydd Mercher 17eg Rhagfyr
Lleoliad: Tŷ Pawb, Stryd Y Farchnad, Wrecsam, LL13 8BY
Amser: 7pm–10pm
Sut i gadw lle: Ar agor i’r cyhoedd.
Disgrifiad:
Parti Nadolig heb ei ail, wedi’i gynnal gan yr arwr lleol Shaggerada. Disgwyliwch egni mawr, syrpreisys beiddgar a dathliad Nadoligaidd yn llawn cerddoriaeth, direidi ac ysbryd pur Wrecsam. Byddwch yn rhan o sgyrsiau Wrecsam2029 mewn noson o hwyl bythgofiadwy a chreadigrwydd di-ofn dan arweiniad ein Brenhines Drag Anhygoel ein hunain a’n gwesteion.
Gweithdy 4
Dyddiad: Dydd Iau 18fed Rhagfyr
Lleoliad: Pontcysyllte Chapel Tea Rooms, Capel Bryn Seion, Ffordd Yr Orsaf, Trefor, LL20 7TP
Amser: 10yb–12yh
Sut i gadw lle: Ar agor i’r cyhoedd (galw heibio)
Disgrifiad:
Dewch i gael sgwrs go iawn gyda chriw gwych o artistiaid lleol wrth i ni ymchwilio i’r hyn y mae diwylliant yn ei olygu i Wrecsam. Galwch heibio, ewch i gael diod, a mwynhewch sgwrs fywiog yn llawn hwyl, cellwair a syniadau beiddgar ar gyfer y dyfodol. Dewch â’ch llais, eich egni a’ch ysbryd Wrecsam.


