Mae Incredible Edible yn cynnal cyfres o weithdai am ddim ym Mannau Tyfu Cymunedol Rhos a Gwersyllt lle gallwch ddysgu sgiliau garddio, mynd allan i’r awyr iach a chwrdd â phobl newydd.
Bydd stondin ym mhob gweithdy hefyd a fydd yn cynnwys planhigion a hadau am ddim y gallwch fynd â nhw adref i’w plannu yn eich gardd eich hun neu eu plannu yn y Man Tyfu Cymunedol.
Digwyddiadau i ddod
Gallwch gadw eich lle am ddim yn unrhyw un o’r gweithdai canlynol drwy Eventbrite.
Cyflwyniad i dyfu bwyd, sut i dyfu eich planhigion unflwydd a lluosflwydd eich hun – gyda hadau AM DDIM ar gael
- Rhos – Dydd Sadwrn 8 Mawrth, 11am-12.30pm
- Gwersyllt – Dydd Sul 9 Mawrth, 11am-12.30pm
Sut i fwydo’r pridd er mwyn bwydo’ch planhigion bwyd – cyflwyniad i daenu gwellt a chompostio ar gyfer iechyd pridd a sicrhau iechyd pridd yn y gerddi cymunedol
- Rhos – Dydd Sadwrn 15 Mawrth, 11am-12.30pm
- Gwersyllt – Dydd Sul 16 Mawrth, 11am-12.30pm
Awgrymiadau trawsblannu, o’r hedyn i’r planhigyn a beth i’w wneud wrth i’r planhigion bwyd dyfu – gyda phlanhigion AM DDIM ar gael i’w trawsblannu
- Rhos – Dydd Sadwrn 29 Mawrth, 11am-12.30pm
- Gwersyllt – Dydd Sul 30 Mawrth, 11am-12.30pm
Am ragor o wybodaeth, gallwch anfon e-bost at incredibleediblewrecsam@gmail.com
Cofiwch, gallwch gadw eich lle am ddim yn unrhyw un o’r gweithdai drwy Eventbrite.
Gweithdai Groundwork Gogledd Cymru
Mae Groundwork Gogledd Cymru yn cynnal sesiynau wythnosol rheolaidd (ar ddydd Mercher) lle byddant yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i dyfu cynnyrch yn y gerddi sydd newydd eu creu a chynnal y Mannau Tyfu Cymunedol.
Bydd y rhai cyntaf yn cael eu cynnal ddydd Mercher 5 Mawrth yn y lleoliadau ac ar yr amseroedd canlynol:
- Man Tyfu Cymunedol Rhos, 10am-12pm
- Man Tyfu Cymunedol Gwersyllt, 1.30pm-3.30pm
Bydd angen i chi gadw lle ymlaen llaw yn y sesiynau hyn, felly e-bostiwch info@groundworknorthwales.org.uk neu gallwch ffonio 01978 757524.
Lle mae’r Mannau Tyfu Cymunedol?
Mae Man Tyfu Cymunedol Rhos wedi’i leoli ar gae hen Ysgol y Wern (ewch i mewn iddo o Penygraig oddi ar Stryt yr Allt, LL14 1LR).
Mae Man Tyfu Cymunedol Gwersyllt ar y ffordd bengaead oddi ar Trydedd Rhodfa, gyda mynediad trwy Clos Renfrew, LL11 4EF.
Diolch i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfG), ynghyd â’r mannau yn Rhos a Gwersyllt, mae mannau tyfu wedi’u cwblhau yng Nghefn Mawr, Partneriaeth Parc Caia, Y Fenter, Yr Ardd Orffwys, Parc Ashfield ac mewn saith ysgol yn Wrecsam, oll gyda help ein grwpiau cymunedol carbon isel lleol.
Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn helpu yn unrhyw un o’r prosiectau tyfu cymunedol neu’r grwpiau cymunedol carbon isel lleol, cysylltwch â decarbonisation@wrexham.gov.uk a byddwn yn siŵr o’ch arwain i’r cyfeiriad cywir.
“Cyfrannu at Wrecsam fwy gwyrdd”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd: “Mae’r gweithdai garddio yn galluogi trigolion i ddysgu sgiliau gwerthfawr a all helpu i gyfrannu at Wrecsam fwy gwyrdd. Mae’n ffordd syml a phwerus o leihau eich ôl troed carbon a gwneud gwahaniaeth go iawn.”
Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2025/26 – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Ebrill!