Yn ddiweddar mae Cyngor Wrecsam wedi gwneud cais i Gymdeithas Alzheimer’s i gael y gydnabyddiaeth o ‘weithio tuag at fod yn awdurdod sy’n gyfeillgar i ddementia’.
Bydd cyflawni’r statws hwn yn dangos ein hymroddiad i’r rhai sy’n byw gyda dementia yn Wrecsam, a dangos fod, fel Awdurdod, pobl sy’n byw gyda dementia yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn parhau i fod yn annibynnol yn eu cymunedau ac yn cael eu grymuso i gael llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau trwy gael gweithlu sy’n deall eu hanghenion.
Mae cael y gydnabyddiaeth hon yn elfen hollbwysig o flaenoriaethau’r cyngor ac yn rhan o gynllun y cyngor a bydd yn dangos ein hymroddiad i’r rhai sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd yn Wrecsam.
I gefnogi’r cais hwn, mae sesiynau cyfeillion Dementia am ddim yn cael eu darparu i bob adran yn yr awdurdod ac ond yn para awr. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn sesiwn cyfeillion dementia, cysylltwch â’ch cefnogwr dementia lleol i drefnu sesiwn. Mae rhestr lawn o Bencampwyr Dementia yma.
Mae nifer o fentrau yn digwydd i gefnogi’r cais ac am fwy o wybodaeth cysylltwch â commissioning@wrexham.gov.uk.