Wythnos Gweithredu Dros Ddementia – Mai 17-21
Dan arweiniad Cymdeithas Alzheimer’s, bydd y cyhoedd yn dod at ei gilydd yn ystod Wythnos Gweithredu Dros Ddementia i wella bywydau pobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia.
Mae Cyngor Wrecsam wedi llwyddo i gynnal y statws ‘gweithio tuag at fod yn awdurdod sy’n gyfeillgar i ddementia’ am yr ail flwyddyn yn olynol.
Cadarnhaodd y Gymdeithas Alzheimer’s y newyddion ar ôl gweld y ffordd y mae ein hadran gofal cymdeithasol i oedolion wedi parhau i gefnogi pobl drwy gydol pandemig y coronafeirws.
Mae’r pandemig wedi cael effaith ddinistriol ar draws y byd ar bobl sy’n byw â dementia, ac mae adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan y gymdeithas wedi canfod:
- Bod dros chwarter y bobl yn y DU a fu farw â Covid-19 rhwng mis Mawrth a mis Mehefin y llynedd â dementia.
- Bod y cynnydd mwyaf o ran marwolaethau nad oeddent yn ymwneud â Covid-19 ym Mhrydain ymysg pobl â dementia.
- I bobl a lwyddodd i oroesi’r argyfwng, roedd effeithiau hunan-ynysu yn ddifrifol.
- Bod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar ofalwr teuluoedd a gofalwr proffesiynol.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Cefnogi teuluoedd yn Wrecsam
Mae’r cyfyngiadau ar gyswllt cymdeithasol – a roddwyd ar waith i arafu lledaeniad y feirws – wedi cael effaith niweidiol ar draws y boblogaeth, ond roedd yn arbennig o anodd i bobl â dementia.
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae cyswllt cymdeithasol yn bwysig iawn i bobl â dementia, felly mae’r pandemig wedi cael effaith enfawr arnynt.
“Mae gwaith ymchwil yn awgrymu fod y pandemig wedi cael effaith negyddol ar iechyd meddwl nifer o bobl, yn ogystal â hynny, mae nifer sylweddol o bobl wedi profi dirywiad amlwg yn eu gallu gwybyddol a’u lles corfforol.
“Yn Wrecsam, rydym wedi parhau i gynnig gymaint o gymorth â phosibl i unigolion a’u teuluoedd yn ystod y pandemig.
“Mae’n hollbwysig ein bod yn eu cefnogi, ac rydym yn falch iawn ein bod wedi cynnal ein statws fel cyngor sy’n gweithio tuag at fod yn gyfeillgar i ddementia.”
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF