Petaech yn buddsoddi £383 miliwn yn rhywbeth ac yn cael £1.3 biliwn yn ôl, yna byddai hynny yn dod ag elw da iawn i chi.
Wel, dyna’n union oedd y ‘fargen’ y bu i Ogledd Cymru ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ddiwedd 2017.
Os ydych chi wedi methu’r stori, neu os hoffech chi wybod yn union beth sydd wedi ei gynnwys ym Margen Dwf Gogledd Cymru, lawrlwythwch y ddogfen o wefan Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.
Beth mae’n ei olygu?
Mae’r ddogfen hon yn egluro sut, gyda’r buddsoddiad cywir, y gall y rhanbarth ddatblygu ei economi.
Mae’n canolbwyntio ar dri amcan allweddol.
- Creu economi ddoeth sy’n annog arloesed mewn diwydiannau mawr eu gwerth.
- Datblygu economi wydn drwy greu swyddi, a helpu gogledd Cymru i gadw gweithlu medrus.
- Creu economi gysylltiedig, gyda chysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd cryf ar draws gogledd Cymru a’r Deyrnas Unedig, yn ogystal â seilwaith digidol o’r safon uchaf.
Mae’n nodi y gall chwistrelliad o £383.4 miliwn ddenu £1.3 biliwn o fuddsoddiad i ogledd Cymru, sef £3.40 am bob punt sy’n cael ei gwario. Ar ben hynny, bydd 5,000 o swyddi newydd, busnesau newydd a thai newydd.
Mae’r ddogfen yn cynnwys llawer o dystiolaeth, ffigyrau a rhagamcaniadau ond, peidiwch â phoeni, dim ond 30 tudalen yw’r ddogfen ac mae hi’n hawdd iawn i’w darllen.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Mae Bwrdd Twf Gogledd Cymru, y bartneriaeth y tu ôl i’r cynigion, wedi cyflwyno’r ddogfen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a bydd rŵan yn dechrau trafod i geisio diogelu’r buddsoddiad sydd ei angen i droi’r weledigaeth hon yn realiti.
Mae’r bartneriaeth yn cynnwys chwe chyngor gogledd Cymru, yn ogystal â phrifysgolion, colegau a chyrff sector preifat y rhanbarth.
Cadwch lygad ar wefan Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i gael newyddion a gwybodaeth am y Fargen Dwf.
LAWRLWYTHWCH Y FARGEN