Caiff llwyddiannau a newidiadau yn y ffordd y bydd Cyngor Wrecsam yn darparu ei wasanaethau gofal eu nodi gan uwch gynghorwyr yr wythnos nesaf.
Bydd aelodau o Fwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam yn adolygu’r cynnydd a wnaeth yn sector gofal yr awdurdod, sydd wedi’i amlygu mewn adroddiad blynyddol pwysig.
Amlinellir newidiadau a gwelliannau i’r gofal gwasanaeth yn Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2016/17, a gaiff eu trafod gan aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn eu cyfarfod misol ddydd Mawrth, 11 Gorffennaf.
Mae’r adroddiad yn amlinellu nifer o welliannau a gyflawnwyd gan y cyngor o ran ei wasanaethau gofal, ac yn rhoi manylion am y meysydd hynny lle mae’r awdurdod wedi cyflawni ei amcanion.
Mae hefyd yn edrych ar y gwelliannau hynny y mae’r cyngor yn dal am eu gwneud, a chymariaethau ag amcanion tebyg yn 2015/16.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Canylyniadau dda
Mae rhai o’r canlyniadau a gyflawnwyd gan y cyngor yn y flwyddyn ddiwethaf a nodir yn yr adroddiad yn cynnwys:
- Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i helpu mwy o bobl aros yn eu cartrefi.
- Agor cartref gofal preswyl newydd ar gyfer Henoed Bregus eu Meddwl mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Clwyd Alyn.
- Creu’r Tîm Oriau Effro i gefnogi plant a’u teuluoedd y tu hwnt i oriau swyddfa arferol.
- Ehangu Tîm Pwynt Mynediad Sengl Plant, gan ganiatáu i’r cyngor ymateb yn gyflym i unrhyw un sy’n gwneud atgyfeiriad.
- Datblygu’r Polisi Diogelu Corfforaethol i hyrwyddo dealltwriaeth ymysg staff, cynghorwyr ac unrhyw un sy’n gweithio i’r cyngor o bwysigrwydd diogelu plant ac oedolion diamddiffyn.
“Mae’r newid wedi digwydd yn gyflym”
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys nifer o fanylion, gan grynhoi ystod o ddatblygiadau a gynhaliwyd yn ein hadran Gwasanaethau Cymdeithasol.
“Tra bod y gwelliannau a’r enghreifftiau a restrir yn yr adroddiad yn cwmpasu ystod o feysydd ar draws darpariaeth gwasanaeth, dylai pawb yn y tîm Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod yn falch o’r cyflawniadau a wnaed yn y flwyddyn ddiwethaf.
“Mae’r newid wedi digwydd yn gyflym ac – wrth i ddemograffeg yng Nghymru ac yn Wrecsam barhau i newid – nid yw’r cyflymder hwnnw yn debygol o arafu yn y dyfodol agos.
“Ond bydd y camau rydym wedi’u cymryd yn ein helpu i ddeall ac ateb anghenion y boblogaeth sy’n heneiddio yn well, ac yn hynny o beth rwy’n croesawu’r canlyniadau a amlinellir yn yr adroddiad.”
Meddai’r Cynghorydd Bill Baldwin, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Rydym wedi newid y ffordd rydyn ni fel cyngor yn sicrhau y gofelir am blant a phobl ifanc, ac wedi cyflwyno ymagwedd newydd sy’n ganolog i blant wrth asesu, gan sicrhau eu bod yn teimlo’n werthfawr ac yn cael llais drwy’r broses.
“Rydym wedi rhagori ar bob awdurdod arall yng Nghymru pan ddaw at sicrhau bod plant yn cymryd rhan yn eu hasesiadau, ac mae hynny yn rhywbeth y dylai’r tîm fod yn falch ohono.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH