Fel rhan o raglen Ysgolion yr 21ain ganrif, caiff £3.9 miliwn ei wario ar wella safle Ffordd Bangor, er mwyn galluogi babanod a phlant iau i gael eu haddysgu yn yr un lleoliad.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Bydd cyfle i weld y cynlluniau cyffrous ar gyfer yr ysgol a chyfle i ofyn cwestiynau ddydd Mercher, 8 Medi am 6.00pm ar safle ysgol Ffordd Bangor.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam: “Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i’n myfyrwyr ifanc, mae’n wych gallu cyhoeddi’r prosiect hwn ar ôl sicrhau cyllid gan raglen Ysgolion yr 21ain ganrif Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y cynghorydd lleol a Chadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol yr Hafod, y Cyng David A Bithell: “Mae hyn yn newyddion cyffrous iawn i Ysgol yr Hafod o ran sicrhau cyllid sylweddol yn Johnstown. Bydd hyn yn caniatáu i bob grŵp oedran gael eu haddysgu ar yr un safle a bydd yn golygu y bydd yr ysgol yn ganolbwynt dysgu i’r ardal a gwella cyfleusterau addysg i Blant.

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN