Bydd defnyddwyr gwasanaeth rheilffordd Caer i Fanceinion yn falch o wybod, nid yn unig mae’r gwasanaeth wedi cael ei gadw, ond bydd yn cael ei wella yn dilyn ymgynghoriad.????
Mae’r newyddion yn dilyn adolygiad ac ymgynghoriad i gysylltiadau trafnidiaeth ledled y DU a sut y gellir eu gwella i sicrhau fod pobl yn gallu mynd i bob rhanbarth yn gyflym ac yn rhwydd.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Gan groesawu’r newyddion, dywedodd y Cyng, David A Bithell, Aelod Arweiniol Trafnidiaeth a’r Amgylchedd, “Yn dilyn sylwadau a wnaed i Lywodraeth y DU yn ystod eu hymgynghoriad, rwy’n falch nad yw’r cynigion gwreiddiol, a fyddai wedi gweld siwrneiau hirach, wedi cael eu cymeradwyo.
“Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio gan lawer o breswylwyr o ardal Wrecsam, yn benodol ar gyfer y sawl sy’n gweithio dros y ffin, a’r sawl sy’n dymuno mynd i rannau eraill o’r DU, neu faes awyr Manceinion hyd yn oed.
“Mae cysylltiadau cludiant rhagorol yn hanfodol os ydym ni am leihau ein hôl troed carbon, ac rydw i’n edrych ymlaen at welliannau yn y dyfodol er mwyn annog mwy o bobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus.”
Mae’r newidiadau’n dod i rym ym mis Rhagfyr 2022, a gallwch eu gweld yma.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL