Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bydd yn AILGYLCHWR GWYCH y Nadolig hwn – Ffeithiau a Syniadau Ailgylchu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Bydd yn AILGYLCHWR GWYCH y Nadolig hwn – Ffeithiau a Syniadau Ailgylchu
Y cyngor

Bydd yn AILGYLCHWR GWYCH y Nadolig hwn – Ffeithiau a Syniadau Ailgylchu

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 17, 2021 9:05 am
Rhannu
Darllen 7 funud
Bydd yn AILGYLCHWR GWYCH y Nadolig hwn – Ffeithiau a Syniadau Ailgylchu
RHANNU

Cymru yw’r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu, ond mae angen inni gyrraedd y brig. Er bod 94% ohonom yn ailgylchu’n rheolaidd, nid yw ein hanner ni’n rhoi eitemau ailgylchadwy yn ein hailgylchu.

Cynnwys
  • 1. Yng nghanol sŵn y dathlu: bagiau te, cofia’u hailgylchu
  • 2. Dangoswch i’r poteli plastig pwy di’r bos
  • 3. Gwydr
  • 4. Rhowch anrheg i’r blaned – ailgylchwch eich tybiau siocled plastig
  • 5. Mwynhewch Nadolig glanach, gwyrddach
  • 6. Clywch y caniau
  • 7. Paid â bod yn ffôl, ailgylcha dy ffoil
  • 8. Concrwch eich cardbord pacio
  • 9. Bwytewch ac ailgylchwch yn llawen
  • 10. Coed Nadolig
  • 11. Papur lapio
  • 12. Cardiau Nadolig

Dros gyfnod yr Ŵyl, rydyn ni’n creu mwy o wastraff nag unrhyw adeg arall o’r flwyddyn. O’r bwyd ychwanegol rydym yn ei fwyta, i’r mynydd o ddeunydd pacio o’r anrhegion Nadolig, dyma gyfle gwych i ailgylchu popeth y gallwn gartref, a dyma ffeithiau ac ambell gyngor defnyddiol:

1. Yng nghanol sŵn y dathlu: bagiau te, cofia’u hailgylchu

Does yna ddim cysur gwell na disgled ar ddiwrnod oer yn y gaeaf. Gallwch ailgylchu bagiau te yn eich cadi bwyd. Person coffi? Gellir ailgylchu gronynnau coffi dros ben hefyd.

2. Dangoswch i’r poteli plastig pwy di’r bos

Rhowch boteli plastig untro yn eu lle’r Nadolig hwn! Mae 90% ohonom yn ailgylchu ein poteli diodydd plastig, poteli nwyddau glanhau a photeli nwyddau ymolchi. Gwagiwch, rinsiwch a gwasgwch nhw cyn eu hailgylchu. Gadewch unrhyw gaeadau, labeli, pigau arllwys a chwistrelli arnynt, caiff y rhain eu tynnu yn ystod y broses ailgylchu.

3. Gwydr

Mae gwneud eitemau gwydr o ddeunyddiau eilgylch yn defnyddio tua 95% yn llai o ynni o’i gymharu â defnyddio deunyddiau newydd neu grai. Gellir ailgylchu unrhyw boteli neu jariau gwydr, beth bynnag eu siâp neu faint. Rhowch rinsiad sydyn iddyn nhw a rhoi’r caead yn ôl arnynt cyn eu rhoi allan ar gyfer eich casgliad ailgylchu wrth ymyl y ffordd.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

4. Rhowch anrheg i’r blaned – ailgylchwch eich tybiau siocled plastig

Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o blastig, yn cynnwys y tybiau siocled a losin rydyn ni’n eu mwynhau gartref dros y Nadolig! Ar hyn o bryd, mae 90% ohonom yng Nghymru’n eu hailgylchu unwaith rydyn ni wedi mwynhau’r danteithion. Ymunwch â’r mwyafrif o bobl Cymru sy’n dweud eu bod yn ailgylchu er mwyn “gwarchod yr amgylchedd” ac ailgylchwch eich tybiau plastig!

5. Mwynhewch Nadolig glanach, gwyrddach

Gwagiwch eich poteli sebon dwylo gwag ar ôl ichi orffen golchi’ch dwylo ar ôl glanhau yn dilyn eich parti Dolig. Gadewch unrhyw gaeadau, labeli, pigau tywallt a chwistrelli arnynt, caiff y rhain eu tynnu yn ystod y broses ailgylchu. Mae 90% o bobl Cymru’n ailgylchu eu poteli sebon dwylo gwag, y cwbl mae angen ichi ei wneud yw eu rinsio eu gwasgu a’u hailgylchu!

6. Clywch y caniau

P’un ai diod feddwol ynteu ddiod ysgafn blasus fyddwch chi’n sipian arno’r Nadolig hwn, byddwch yn un o’r 92% ohonom yng Nghymru sy’n ailgylchu ein caniau. Mae ailgylchu un can yn arbed digon o ynni i bweru sugnwr llwch am awr.

7. Paid â bod yn ffôl, ailgylcha dy ffoil

Gellir ailgylchu metel dro ar ôl tro heb i’w ansawdd ddirywio. Mae’r rhan fwyaf ohonom yng Nghymru’n ailgylchu ein ffoil. Gallwch ailgylchu casys mins peis ffoil gwag ac unrhyw ffoil a ddefnyddiwyd yn eich coginio Nadoligaidd (cyn belled â’i fod yn lân, heb ei staenio, a heb fwyd, saim nac olew arno). Mae gwasgu ffoil at ei gilydd cyn ei ailgylchu’n helpu’r darnau i fynd drwy’r broses ddidoli ailgylchu heb fynd ar goll.

Mwynhau disgled gyda theulu neu ffrindiau yn ystod ymweliad Nadolig? Peidiwch ag anghofio ailgylchu'ch bagiau te! Gallwch ailgylchu bagiau te yn eich cadi bwyd 👉 https://t.co/RSk43CxDx9 #ByddWychAilgylcha pic.twitter.com/TJNbTH11Q8

— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) December 14, 2021

8. Concrwch eich cardbord pacio

Rydym yn defnyddio mwy o gardbord dros y Nadolig nac unrhyw adeg arall o’r flwyddyn, ac mae 92% o bobl Cymru’n ailgylchu eu cardbord. Tynnwch y tâp pacio a fflatio unrhyw focsys, neu gallwch eu torri’n ddarnau llai i arbed lle yn eich bag, bin neu focs ailgylchu. A chadwch eich cardbord yn sych os gallwch chi!

9. Bwytewch ac ailgylchwch yn llawen

Rydym yn creu llawer mwy o wastraff bwyd dros y Nadolig, felly gwnewch yn siŵr ei fod i gyd yn mynd i’ch cadi cegin. Ailgylchwch esgyrn twrci, crafion llysiau a ffrwythau, bagiau te, plisg wyau ac unrhyw fwydydd dros ben na ellir eu bwyta’n ddiogel yn nes ymlaen.

10. Coed Nadolig

Ewch ag unrhyw goed Nadolig plastig diangen, gyda neu heb oleuadau integredig, i’ch canolfan ailgylchu leol. Mae coed Nadolig ‘go iawn’ yn 100% ailgylchadwy.Os ydych chi wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd gallwch ailgylchu eich coeden Nadolig go iawn yn eich bin gwyrdd, cyn belled â’i bod yn ffitio. Os yw’n rhy fawr, gallwch fynd â hi i un o’n canolfannau ailgylchu.

11. Papur lapio

Mae papur lapio yn anodd ei ailgylchu, ond mae yna ddewisiadau amgen ecogyfeillgar i’w cael, fel papur brown a brethyn lapio, a gellir eu haddurno gyda rhubanau Nadoligaidd, a’r peth da amdanyn nhw yw y gellir eu defnyddio eto’r flwyddyn nesaf!

12. Cardiau Nadolig

Wrth ailgylchu eich cardiau Nadolig, cofiwch dynnu unrhyw fathodynnau, ffoil, llwch llachar neu rubanau’n gyntaf, gan na ellir ailgylchu’r darnau hyn. Gellir ailgylchu eich amlenni i gyd hefyd. Os oes gennych chi gynwysyddion ar wahân ar gyfer eich ‘cardbord’ a ‘papur’, rhowch eich cardiau gyda’ch ‘cardbord’ a’ch amlenni gyda’ch ‘papur’.

I ddysgu mwy am Ymgyrch Gwych Cymru yn Ailgylchu i gael Cymru i rif un, ewch i’r wefan byddwychailgylcha.org.uk

Cyngor ynglŷn ag ailgylchu cyn y Nadolig

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Rail track Gwelliant i amserlen reilffordd Caer i Fanceinion yn dilyn ymgynghoriad
Erthygl nesaf Recycling A fyddwch chi’n mynd i’r canolfannau ailgylchu dros y Nadolig? Dyma ychydig o gyngor…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English