Rydym yn falch o gyhoeddi, o ganlyniad i gydweithrediad rhwng Cyngor Wrecsam, yr Urdd a Freedom Leisure, ein bod bellach mewn sefyllfa i ddarparu gwersi nofio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cynhelir y gwersi yn y Ganolfan Byd Dŵr, bob dydd Mercher am 17.15 – 17.45 a 17.45-18.15, gan ddechrau ar 21 Chwefror.
Gallwch holi am y gwersi ac archebu lle yma: Gwersi Nofio Cymraeg | Freedom Leisure (freedom-leisure.co.uk)
Mae llefydd yn brin, fodd bynnag bydd rhestrau aros ar gael unwaith y bydd y gwersi’n llawn.
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry Jones, Aelod Arweiniol Hamdden Cyngor Wrecsam: “Mae dysgu nofio fel plentyn yn sgil bywyd gwych i’w gael, ac rydym yn falch ein bod yn awr yn gallu cynnig y cyfle hwn trwy gyfrwng y Gymraeg.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Cefnogwr y Gymraeg, Cyngor Wrecsam: “Er ein bod yn hapus bod y gwersi hyn bellach ar waith, rydym yn bwriadu parhau gyda’n hymrwymiad i ddarparu gwersi nofio yn Gymraeg ac yn dal i hysbysebu i recriwtio (a hyfforddi yn rhad ac am ddim) hyfforddwyr nofio sy’n siarad Cymraeg. Os byddai gennych chi ddiddordeb yn hyn, rwy’n eich annog i gysylltu â Byd Dŵr ar 01978 297300 am fwy o wybodaeth.”
Ychwanega Gwion John Williams, Uwch Swyddog Datblygu Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru: “Rydym yn falch o fod yn rhan o’r datblygiad hwn yng Nghanolfan Byd Dŵr, Wrecsam ac wrth wneud hynny yn ymateb i anghenion plant a phobl ifanc leol. Mae sicrhau bod cyfleoedd a phrofiadau trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael i’n pobl ifanc yn ganolog i’n gwaith.”
Dywedodd Felicity Griffiths, Rheolwr Cyffredinol y Ganolfan Byd Dŵr: “Mae Freedom Leisure yn dysgu dros 12,000 o fyfyrwyr ar draws Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at ymestyn ein cynnig ymhellach gyda’n Gwersi Nofio Cymraeg yn y Ganolfan Byd Dŵr yn Wrecsam. Rydym yn barod i ddysgu’r sgil achub bywyd hwn i hyd yn oed fwy o bobl yn ein cymuned ac rydym yn sicr y bydd lleoedd yn cael eu harchebu’n gyflym felly peidiwch â cholli allan!”