Fis Rhagfyr cynhaliwyd ymgyrch ar y cyd rhwng yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVSA), Heddlu Gogledd Cymru ac Adain Drwyddedu Cyngor Wrecsam i sicrhau diogelwch cerbydau ar ein ffyrdd.
Gwiriodd ein swyddogion nifer o gerbydau yn ardal Wrecsam, a chymryd camau gweithredu pan welwyd diffygion. Roedd hyn yn cynnwys rhoi rhybuddion i yrwyr am faterion fel goleuadau diffygiol a gwahardd cerbydau oddi ar y ffordd am broblemau difrifol.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Yn ogystal â hyn cynhaliodd yr Adain Drwyddedu wiriadau ar dacsis a gyrwyr, er mwyn sicrhau diogelwch cwsmeriaid – menter a dderbyniodd groeso gan fusnesau tacsis.
Meddai David Collings, Pennaeth Gorfodi’r DVSA: “Mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn chwarae rhan allweddol wrth gadw ein gwlad ar fynd, gan ganiatáu i bobl deithio’n ddiogel a rhwydd. Mae llawer o bobl yn ein cymunedau, yn enwedig pobl anabl, yn dibynnu arnyn nhw.
“Roedd yn braf gweld bod y rhan fwyaf o’r gweithredwyr a’r gyrwyr tacsis yn ardal Wrecsam yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif ac yn darparu cerbydau diogel ac addas i’r ffordd fawr – gydag ond llond llaw o gerbydau yn methu â chyrraedd y safonau gofynnol.”
Meddai Terry Evans, Aelod Arweiniol Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd: “Roedd gweithio mewn partneriaeth ar y mater hwn yn werthfawr iawn, yn enwedig yn ystod y cyfnod prysur dros y Nadolig. Mae’n rhoi hyder i bobl Wrecsam bod diogelwch a rheoliadau gyrwyr a cherbydau yn cael eu gwirio er mwyn gwella diogelwch ar ein ffyrdd.”
Mae cyngor ar ddiogelwch cerbydau ar gael ar GOV.UK.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI