Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwiriwch a golchwch a gofalwch am y gweddillion – 2 gyngor ailgylchu syml ar gyfer gwell Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 19-20 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > Gwiriwch a golchwch a gofalwch am y gweddillion – 2 gyngor ailgylchu syml ar gyfer gwell Wrecsam
FideoY cyngor

Gwiriwch a golchwch a gofalwch am y gweddillion – 2 gyngor ailgylchu syml ar gyfer gwell Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Medi 28, 2018 11:34 am
Rhannu
Darllen 4 funud
RHANNU

Rhyfedd ydy’r busnes ailgylchu ‘ma!

Cynnwys
  • Gwiriwch a Golchwch
  • Gofalwch am y gweddillion

Efallai eich bod yn meddwl eich bod ailgylchwr di-guro, ac os ydych yn mynd i’r drafferth o ailgylchu yn y lle cyntaf, rydych yn bendant ar y trywydd cywir… ond…

Trwy wneud ychydig o newidiadau bach, efallai y gallech fod yn ailgylchwr hyd yn oed yn well – a bydd hynny o fudd i chi ac i Wrecsam.

Dilynwch y ddau gam syml canlynol i ailgylchu yn y ffordd orau bosibl 🙂

Gwiriwch a Golchwch

Dyma’r cam cyntaf! Cyn taflu eitem yn eich bin du, edrychwch yn fanwl arno a gofynnwch y cwestiwn pwysig “a oes modd i mi ei ailgylchu?”

Os ydych yn ansicr, ewch i’n gwefan.

“Oes” meddai chi – gwych! Unwaith y byddwch yn gwybod bod modd i chi ailgylchu’r eitem ni fydd angen i chi ei roi yn eich bin du. Fel y gwyddom, gall y biniau hyn lenwi’n gyflym a mynd yn ddrewllyd iawn…

“Ond, bydd yr eitem yn drewi yn fy min ailgylchu hefyd?” Meddai chi… yr ateb syml yw ‘na fydd’! Nid o reidrwydd. Golchwch jariau, poteli a thuniau yn sydyn mewn hen ddŵr golchi llestri i’w glanhau.

Nid yw’n cymryd llawer o amser ac mae’n gwneud y broses o’u hailgylchu yn llawer haws. Ni fydd raid i chi ymdrin ag unrhyw arogleuon drewllyd a byddwch yn helpu Wrecsam.

Oherwydd trwy olchi’r eitemau, byddwch yn gwneud y broses o’u hailgylchu yn haws – gan ein helpu i arbed neu gynhyrchu mwy o arian. Arian y gallwn ei wario ar wasanaethau cyhoeddus yn Wrecsam.

Swnio’n dda? Reit, cam 2…

Gofalwch am y gweddillion

Beth am fynd ati i wneud rhywbeth allan o ddim byd? Darllenwch fwy…

Mae rhoi’ch gwastraff bwyd yn eich bin du braidd yn wastraffus!

Trwy dreulio ychydig o amser yn ailgylchu gweddillion bwyd yn eich cadi bwyd llwyd gallwch ddechrau’r broses o’i droi’n gompost.

Byddwch yn gwneud mwy o le yn eich bin du ac yn gwneud lles i’r amgylchedd ar yr un pryd.

Dyma ddau gam syml y gallwch eu cymryd i wella’r ffordd yr ydych yn ailgylchu… byddwn yn rhoi llawer mwy o gyngor i chi am ailgylchu dros yr wythnosau nesaf, felly cadwch eich llygaid ar agor.

Mae’n wythnos ailgylchu (24-30 Medi) – felly mae hwn yn amser perffaith i ddechrau ‘gwirio a golchi’ a ‘gofalu am y gweddillion’.

Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Mae’n wir bod trigolion Wrecsam yn ailgylchwyr da, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y camau y mae pobl yn eu cymryd i wella eu harferion ailgylchu hyd yn oed ymhellach.

“Gydag ychydig o newidiadau bach gwyddom y gallwn wneud hyd yn oed yn well ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sy’n mynd i’r drafferth o ailgylchu.”

Mwy o gyngor ailgylchu…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/index.htm”] IAWN – RYDW I ISIO FOD YN ARCHARWR AILGYLCHU! [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gŵyl Fwyd yn Taro’r Nodyn Cywir Gŵyl Fwyd yn Taro’r Nodyn Cywir
Erthygl nesaf Landlordiaid – a yw eich eiddo mewn perygl o fynd ar dân? Landlordiaid – a yw eich eiddo mewn perygl o fynd ar dân?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English