Bydd unrhyw un sy’n cofio dawnsio i sain y band glam rock o’r 70au, The Sweet, wrth eu bodd gan eu bod wedi trefnu digwyddiad arbennig yma yn Wrecsam.
Byddant yn dathlu eu pen-blwydd yn 50 oed yma ar 16 Mawrth yn Neuadd William Aston, a byddant yn cyfrannu eu holl elw o’r gig i glwb Pêl-droed Wrecsam. Mae hwn yn un o ddau ymddangosiad yn unig yn y DU fel rhan o’u Taith Ewropeaidd.
Dywedodd y brodor o Wrecsam Andy Scott, sy’n chwarae rhan gitâr/llais, ac sy’n frawd i reolwr masnachol Clwb Pêl-droed Wrecsam, Geoff: “Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at wneud y sioe yn Wrecsam, rydym i gyd yn edrych ymlaen. Mae’n fonws ychwanegol i allu dychwelyd i’m tref enedigol a helpu’r clwb pêl-droed ar yr un pryd.”
Mae tocynnau ar gael am £30.00 yn unig yn www.glyndwr.ac.uk/en/events/allevents neu http://www.thesweet.com/tour/
Os ydych yn chwilio am noson fwy cofiadwy hyd yn oed, gallwch gyfarfod y bechgyn eu hunain mewn digwyddiad arbennig cyn y cyngerdd lle cewch bryd o fwyd a chwrdd â’r band yn Ystafell Bamford yn y Cae Ras. Byddwch gyda’r band o 5.30 tan 7.30 a chewch garferi a phwdin. I archebu’r digwyddiad arbennig pryd o fwyd a chyfarfod y band, ffoniwch 01978 891864
Yn ffurfio Sweet, bydd Andy Scott (llais/gitâr), Bruce Bislan (drymiau/llais), Pete Lincoln (prif lais/bas) a Tony O’Hara (gitâr/allweddellau/llais)
Yn cefnogi Sweet ar y noson, bydd band Kidsmoke sy’n seiliedig yn Wrecsam. Maen nhw’n fand pedwar aelod a ffurfiwyd yn 2013, ac maen nhw’n chwarae cerddoriaeth indie-pop wedi’i hysbrydoli gan The Smiths, Joy Division a bandiau mwy cyfoes fel Wild Nothing, Real Estate a Deerhunter.
GET BIN REMINDERS
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.