Os ydych yn trefnu pryd Nadolig arbennig gyda chydweithwyr, ffrindiau neu deulu rydym yn eich atgoffa i ‘edrych cyn archebu’.
Mae’r Nadolig yn amser i fwynhau cwmni da a bwyd da heb orfod poeni am wenwyn bwyd. Ond y gwir yw, ni allwch ddweud beth yw safonau hylendid bwyty yn ôl pa mor lân a thaclus y mae’r staff yn ymddangos neu yn ôl pa mor brysur yw hi.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Y pethau na allwch eu gweld – fel germau a gaiff eu lledaenu gan arferion hylendid gwael – y mae angen i chi eu hystyried.
Work in social care and be the lifeline your community needs.
Mae un ffordd hawdd i dawelu eich meddwl – edrychwch ar y sgôr hylendid bwyd.
Mae’r sgôr hylendid bwyd yn dweud wrthych am safonau hylendid mewn bwytai a busnesau bwyd eraill. Mae’n hawdd iawn ei wirio.
Ewch ar-lein ac ymwelwch â gwefan Yr Asiantaeth Safonau Bwyd neu os ydych allan ar grwydr yn rhywle, cadwch olwg allan am y sticer gwyrdd a du.
Mae’r sgoriau yn cael eu pennu gan ein swyddogion Gwarchod y Cyhoedd ac yn rhedeg o 0-5, gyda gradd 5 yn golygu lefel dda iawn o hylendid bwyd. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau bwyd yng Nghymru arddangos eu sticer sgôr yn dilyn arolygiad.
Mae bron i 98 y cant o fusnesau bwyd wedi eu graddio yn 3 neu well, felly mae digon o leoedd gyda safonau da a gallwch osgoi mynd â’ch teulu i’r rhai nad ydynt yn bodloni’r radd. Bydd gweld sticer gwyrdd a du yn cael ei arddangos yn y ffenestr a gwirio ar-lein am y sgôr yn eich helpu i wneud penderfyniad mwy gwybodus.
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau a Phartneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae gwirio graddfeydd hylendid a dewis bwyty sy’n cymryd hylendid bwyd o ddifrif ar gyfer partïon Nadolig yn syml i bobl yn Wrecsam. Dyma gyfnod pwysig i fusnesau lleol. Mae sgôr hylendid bwyd da yn rhywbeth i fod yn falch ohono, ac mae’n bwysig i gwsmeriaid.’
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i ratings.food.gov.uk
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL