Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwledda Allan Dros y Nadolig Eleni? Edrychwch Cyn Archebu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gwledda Allan Dros y Nadolig Eleni? Edrychwch Cyn Archebu
Y cyngor

Gwledda Allan Dros y Nadolig Eleni? Edrychwch Cyn Archebu

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 17, 2021 2:58 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Look before you book
RHANNU

Os ydych yn trefnu pryd Nadolig arbennig gyda chydweithwyr, ffrindiau neu deulu rydym yn eich atgoffa i ‘edrych cyn archebu’.

Mae’r Nadolig yn amser i fwynhau cwmni da a bwyd da heb orfod poeni am wenwyn bwyd. Ond y gwir yw, ni allwch ddweud beth yw safonau hylendid bwyty yn ôl pa mor lân a thaclus y mae’r staff yn ymddangos neu yn ôl pa mor brysur yw hi.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Y pethau na allwch eu gweld – fel germau a gaiff eu lledaenu gan arferion hylendid gwael – y mae angen i chi eu hystyried.

Work in social care and be the lifeline your community needs.

Mae un ffordd hawdd i dawelu eich meddwl – edrychwch ar y sgôr hylendid bwyd.

Mae’r sgôr hylendid bwyd yn dweud wrthych am safonau hylendid mewn bwytai a busnesau bwyd eraill. Mae’n hawdd iawn ei wirio.

Ewch ar-lein ac ymwelwch â gwefan Yr Asiantaeth Safonau Bwyd neu os ydych allan ar grwydr yn rhywle, cadwch olwg allan am y sticer gwyrdd a du.

Mae’r sgoriau yn cael eu pennu gan ein swyddogion Gwarchod y Cyhoedd ac yn rhedeg o 0-5, gyda gradd 5 yn golygu lefel dda iawn o hylendid bwyd. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau bwyd yng Nghymru arddangos eu sticer sgôr yn dilyn arolygiad.

Mae bron i 98 y cant o fusnesau bwyd wedi eu graddio yn 3 neu well, felly mae digon o leoedd gyda safonau da a gallwch osgoi mynd â’ch teulu i’r rhai nad ydynt yn bodloni’r radd. Bydd gweld sticer gwyrdd a du yn cael ei arddangos yn y ffenestr a gwirio ar-lein am y sgôr yn eich helpu i wneud penderfyniad mwy gwybodus.

GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau a Phartneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae gwirio graddfeydd hylendid a dewis bwyty sy’n cymryd hylendid bwyd o ddifrif ar gyfer partïon Nadolig yn syml i bobl yn Wrecsam. Dyma gyfnod pwysig i fusnesau lleol. Mae sgôr hylendid bwyd da yn rhywbeth i fod yn falch ohono, ac mae’n bwysig i gwsmeriaid.’

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i ratings.food.gov.uk

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Library Car Park Gwaith coed Maes Parcio’r llyfrgell ddydd Sul
Erthygl nesaf Prynwch deganau yn ddiogel y Nadolig hwn Prynwch deganau yn ddiogel y Nadolig hwn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English